Mwyafrif o blant i fyw heb y Gymraeg: Cymraeg ail iaith i barhau

Mae ymgyrchwyr iaith heddiw wedi condemnio datganiad gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig parhau â'r cysyniad o Gymraeg ail iaith er gwaethaf ymrwymiad gan y Gweinidog Addysg i'w ddileu.   

Mewn datganiad polisi o'r enw "Cymraeg Ail Iaith yn ein cwricwlwm newydd" a gafodd ei ryddhau i Aelodau Cynulliad, medd y Gweinidog Addysg"rwyf wedi gofyn i Gymwysterau Cymru, ein corff cymwysterau annibynnol newydd, ystyried yr ystod bresennol o gymwysterau Cymraeg ail iaith a chynghori ar sut y gellid eu newid.".   

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datganiad yn cynnig parhaâ'r system addysg ail iaith, ac yn groes i'r hyn ddywedodd y Gweinidog Addysg mewn cyfarfod gyda nhw'r wythnos ddiwethaf"Mae’r cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath,a "Dysgais i Gymraeg fel ail iaith, a dwi heb elwa llawer ohono.” Dywedodd hefyd bod dysgu mwy o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn "rhan o'r ateb".   

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r datganiad yn siomedig iawn ac yn dangos diffyg gweledigaeth a diffyg arweiniad. Mae'r Llywodraeth wedi dewis anwybyddu adroddiad gan Yr Athro Sioned Davies, adroddiad y  gwnaethon nhw ei gomisiynu eu hunain. Maen nhw hefyd yn anwybyddu barn arbenigwyr eraill fel Yr Athro David Crystal sydd wedi cefnogi ein hymgyrch dros addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Ein pryder yw y bydd y polisi newydd hwn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant yn parhau i ddioddef system eilradd sy'n golygu na fydd modd iddyn nhw weithio na chyfathrebu yn Gymraeg.    

"Dyw'r datganiad hwn ddim yn adlewyrchu'r hyn ddywedodd y Gweinidog yn y cyfarfod wythnos ddiwethaf - wn i ddim sut mae e wedi gwneud tro-pedol mewn cyfnod mor fyrYn hytrach na gosod cyfeiriad clir maen nhw am achosi oedi pellach. Does dim amserlen. Yn lle, mae rhyw esgus y bydd newidiadau yn dod drwy beilota, ac ymgynghoriad arall dwy flynedd ers adroddiad 'brys' Sioned DaviesNid yw'n argoeli'n dda i blant Cymru a'r Gymraeg - os nad oes newid cyfeiriad mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o'r genhedlaeth nesaf yn tyfu lan heb y gallu i fyw yn Gymraeg." 

"Yr hyn sydd ei angen yw camau pendant tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Does dim byd o'r fath yma, er mai dyna'r hyn oedd y Gweinidog wedi awgrymu a fyddai'n ddigwydd. Rydym wedi'n siomi a'n synnu nad yw'r Llywodraeth yn sylweddoli'r hyn sydd ei angen. Mae'n debyg y bydd yn rhaid cael Llywodraeth newydd i sicrhau bod gwir newid yn digwydd."   

Ychwanegodd: 

"Mae rhaid cael un llwybr iaith i bob un disgybl, ac mae angen datganiad diamwys am hynny, sy'n golygu dileu'r cysyniad o'r Gymraeg fel ail iaith. Mae angen cychwyn ar hynny ar y cyfle cyntaf posibl, mae cyfle amlwg am hynny ym mis Medi 2016. Ac mae angen rhaglen hyfforddiant clir i'r gweithlu addysg i wneud hynny. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a rhaglenni i'r teulu cyfangan gynnwys rhaglen cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu Cymraeg i rieni plant ifanc. Ar hyn o bryd mae gormod o blant yn cael eu colli o un cyfnod allweddol i'r llall, yn enwedig yn y gorllewin a'r gogledd. Mae angen mynd i'r afael â'r materion hynny hefyd."