Mynnu statws cyfartal i ddirwyon parcio Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu bod dirwyon parcio sydd yn cael eu hanfon yn Gymraeg â’r un statws, yn cael eu danfon yr un pryd ac yr un mor “gywir a chyflawn” a rhai sydd yn cael eu hanfon yn Saesneg. 

Mynnodd dyn o Aberystwyth hysbysiad tâl parcio yn Gymraeg wedi iddo dderbyn hysbysiad uniaith Saesneg. Er iddo dderbyn hybysiad Cymraeg mae’n gwrthod ei thalu gan fod y Gymraeg yn wallus ac yn ei gyfeirio at y Saesneg pe bai camgymeriad neu aneglurder ar yr hysbysiad tâl parcio Cymraeg.

Derbyniodd Rhun Fychan yr hysbysiad tâl parcio gwreiddiol ar 15 Awst gan gwmni parcio New Generation Parking Management, wedi iddo beidio talu mewn maes parcio ym Marina Aberystwyth. Dywedodd Rhun:

“Mae’n ymddangos i mi fel petai’r copi Cymraeg wedi’i hysgrifennu gan beiriant, a’n sicr heb gael ei wirio gan siaradwr Cymraeg go iawn. Faint o drafferth fyddai wedi bod i dalu cyfieithydd i ddarparu copi eglur, o safon? 

“Mae’r ffaith hefyd bod y ddirwy’n cyfeirio at y Saesneg fel y fersiwn cywir yn gosod y Gymraeg yn eilradd. Tydw i’n sicr ddim yn teimlo bod fy hawl i ddefnyddio fy iaith fy hun wedi cael ei barchu.”

Mewn ebost, dywedodd New Generation Parking Management:

“...although we have made every effort to ensure the accuracy of the translation, we cannot guarantee the absolute precision of the translation and any discrepancies should be referred back to the original document provided in the post.”

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r cwmni yma – fel sawl cwmni arall ledled Cymru – wedi dangos amharodrwydd i drin ein hiaith gyda pharch. Mae angen i hysbysiadau tâl  parcio Cymraeg fod yr un mor gywir a chyflawn a rhai Saesneg, a chyrraedd yr un mor brydlon ac yn ddi-ofyn. Nid er mwyn ticio bocs yn unig y dylid arfer y Gymraeg.”

“Galwn unwaith eto ar Jeremy Miles i ddiwygio Mesur Iaith 2011 i wneud yn siwr bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal gan y sector breifat, fel cwmnïau meysydd parcio, archfarchnadoedd, banciau a sectorau eraill. Galwn hefyd ar bobl i beidio talu hysbysiadau tâl parcio uniaith Saesneg neu rai sydd yn gwneud y Gymraeg yn eilradd nes bod newid yn y gyfraith”

Daw’r achos hon ddeufis a hanner wedi i Toni Schiavone ymddangos gerbron llys yn Aberystwyth am wrthod talu dirwy uniaith Saesneg gan gwmni parcio One Parking Solution. Taflwyd yr achos o’r llys gan nad oedd One Parking Solution wedi’i gyflwyno mewn digon o bryd nac o dan y rheolau cywir. Ers yr achos llys, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal ymgyrch i wrthod talu ffioedd mewn meysydd parcio ag arwyddion Saesneg yn unig, na’r hysbysiadau tâl parcio uniaith Saesneg a ddaw yn sgil hyn.