Pennaeth BBC Cymru yn lobio’r Prif Weinidog dros ddatganoli darlledu - dogfen newydd

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cwrdd â Chyfarwyddwr y BBC yng Nghymru, Rhuanedd Richards, i glywed ei barn am argymhellion panel o arbenigwyr ar ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, yn ôl dogfen sydd wedi ei rhyddhau trwy gais rhyddid gwybodaeth. 

Mae’r newyddion wedi arwain at bryder ymysg ymgyrchwyr iaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrando llawer mwy ar y BBC na barn pobl Cymru ar ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Ddechrau mis Awst, cyhoeddodd panel arbenigol ar ddarlledu dan gadeiryddiaeth y darlledwr Melanie Doel a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones adroddiad. Mae’r adroddiad a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru yn argymell bod Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn cael ei sefydlu o fewn 12 mis, fel cam cyntaf y broses o ddatganoli grymoedd dros ddarlledu yn llawn. Mae’r Llywodraeth eisioes wedi datgan ei fod o blaid datganoli darlledu, fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. 

Mewn llythyr a ddanfonodd Dawn Bowden at Rhuanedd Richards ar 16 Hydref 2023, ac a dderbyniodd Cymdeithas yr Iaith trwy gais rhyddid gwybodaeth, daw’n amlwg bod Cyfarwyddwr y BBC yng Nghymru, Ms Richards, wedi cael cyfle penodol i drafod casgliadau’r adroddiad yn uniongyrchol gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Rwy’n cael ar ddeall y gwnaethoch gwrdd â’r Prif Weinidog yn ddiweddar a thrafod yr adroddiad a’ch sylwadau ag ef. Fel y nodwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw, rydym yn awyddus i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys BBC Cymru, wrth inni fyfyrio ar gynnwys yr adroddiad ac ymateb i’w argymhellion. Yn y cyfamser, os oes gennych ragor o sylwadau neu os hoffech drafod yr ymateb hwn ymhellach, byddai fy swyddogion yn Cymru Creadigol yn hapus i drefnu cyfarfod â chi.”

Daw hyn wedi i’r BBC honni, mewn ymateb i stori diweddar gan Nation.Cymru yn collfarnu ymdrechion y gorfforaeth i atal sefydlu Awdurdod Cyfathrebu i Gymru, nad ydyn nhw wedi ‘datgan dim barn ar ddatganoli darlledu na chreu Awdurdod Darlledu Cysgodol…’.

Dywedodd Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, bod hyn yn ‘gamarweiniol’:

Er gwaetha’r datganiad yma, mae’n gwbl glir o’r deunydd rydym wedi’i dderbyn trwy ein cais rhyddid gwybodaeth bod cyfarfod wedi digwydd rhwng Rhuanedd Richards a’r Prif Weinidog i fynegi barn ar yr adroddiad pwysig yma a dyfodol darlledu yng Nghymru. Roedd hi’n gamarweiniol i honni mai dim ond cywiro ffeithiau oedd Ms Richards.

“Mae’n edrych yn fwyfwy fel bod y BBC wedi bod yn cynnal ymgyrch gydlynus i atal pwerau dros gyfathrebu a darlledu rhag dod i Gymru. Yn gyntaf, ceisiodd y gorfforaeth ddweud nad oedd dim i’r llythyr a anfonodd at y Gweinidog, ond bellach mae wedi dod yn amlwg iddynt gwrdd â Gweinidogion i lobio hefyd.

“Mae sawl pol piniwn wedi dangos bod pobl Cymru eisiau pwerau darlledu a chyfathrebu yn eu dwylo nhw, nid darlledwyr a gwleidyddion yn Llundain. Byddai sefydlu’r Awdurdod Darlledu Cysgodol yn gam pendant at hynny ac yn gosod y seilwaith ar gyfer datganoli darlledu’n llawn.”

Mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith ym mis Hydref am gyfarfod gyda hi, dywedodd Dawn Bowden y byddai’n barod i gyfarfod â’r mudiad, ond nid nes y flwyddyn newydd, ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi ei hymateb i’r adroddiad.

Ychwanegodd Mirain Owen:

“Mae’r penderfyniadau sydd am gael eu gwneud ynglyn ag Adroddiad Doel Jones yn hollbwysig ar gyfer dyfodol darlledu yng Nghymru, ynghyd â’n democratiaeth a’n hiaith. Tra’n myfyrio ar gasgliadau’r Adroddiad a’r ffordd ymlaen, dylai’r Llywodraeth dderbyn barn ystod o randdeiliaid ac arbenigwyr. Nid yw trafod â’r BBC yn unig yn foddhaol.”

Fis diwethaf, fe ysgrifennodd dwsinau o bobl o'r byd darlledu ac academaidd at Lywodraeth Cymru yn galw arnyn nhw i weithredu argymhellion ei hadroddiad annibynnol ei hun. Roedd y llythyr agored yn cynnwys llofnodion Dafydd Iwan, Sharon Morgan, Yr Athro Richard Wyn Jones, Carys Eleri, Yr Athro Tom O'Malley a Meic Birtwistle.