Safonau Iaith - angen eglurder am gwmnïau ffôn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg roi eglurder ynghlych pryd bydd safonau iaith yn cael eu gosod ar gwmnïau ffôn a thelathrebu.

Daw’r cwestiwn wrth i Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws gychwyn ar ei hymchwiliad i mewn i’r set gyntaf o safonau iaith a fydd yn gosod dyletswyddau newydd ar awdurodau lleol, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol. Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth osod dyletswyddau ar y sector gyhoeddus ynghyd â chwmnïau preifat mewn sectorau megis post, cyfleustodau, cludiant a thelathrebu.

Meddai Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Byddai’n fater o bryder pe bai’r Comisiynydd yn penderfynu peidio â datgan yn glir pryd y bydd cwmnïau fel y sector telathrebu fel cwmnïau ffôn symudol a chyfleustodau fel y gwasanaethau post ac ynni yn gorfod cydymffurfio â’r safonau. Yn eu strategaeth iaith mae’r Llywodraeth wedi addo’n ddiflewyn ar dafod y byddan nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Byddai’n rhyfedd felly pe na bai’r Comisiynydd yn gwneud datganiad cwbl glir am ei bwriad i osod safonau ar y sectorau preifat newydd hyn, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth.”

Mewn adroddiad gan Gyngor Casnewydd - yr unig gyngor sydd heb wefan Gymraeg o rywfath - yn trafod y ffaith eu bod yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd, meddai’r Cyngor: "Mae angen hygrededd yn ein hymagwedd neu fe allai arwain at set o safonau mwy llym y bydd yn rhaid i ni gydymffurfio â nhw erbyn Gorffennaf 2015."

Ychwanegodd Ms Howys: “Fel mae adroddiad Casnewydd yn ei amlygu, mae nifer o gynghorau yn mynd i geisio atal pobl rhag cael eu hawliau iaith. Maen nhw’n mynd i ddefnyddio ymchwiliad y Comisiynydd er mwyn gwanhau’r safonau. Mae’n bwysig felly bod pobl cyffredin, caredigion yr iaith yn ymateb.

“Mater o bryder hefyd yw bod y Llywodraeth, mae’n ymddangos, wedi anghofio llunio safonau i sicrhau bod gwaith sy’n cael ei gontractio gan gyrff cyhoeddus i gwmnïau preifat yn gorfod cydymffurfio â'r safonau. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod cynlluniau iaith yn cynnwys amodau ynghylch contractio, a bod mwy a mwy o wasanaethau fel meysydd parcio a phyllau nofio yn cael eu darparu trwy gontractio.

“Mewn nifer o feysydd eraill megis gwasanaethau ffôn a gwefannau, mae peryg y gallai’r safonau drafft gynnig llai na chynlluniau iaith.  Mae’n galluogi awdurdod lleol i ddarparu gwasanaeth ffôn nad yw’n gyflawn, rhywbeth nad oedd Deddf Iaith 1993 yn ei ganiatáu. Os yw hynny wir yn bosibiliad, mae’r Prif Weinidog wedi torri ei addewid i beidio cynnig opsiynau sy’n llai na’r hyn a gynigir gan gynlluniau iaith.”