Saith Seren - Apêl i Carwyn Jones

Mae mudiad iaith wedi gofyn i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ymyrryd er mwyn cadw canolfan Gymraeg y Saith Seren yn Wrecsam ar agor.  

Ym mis Awst y llynedd, fe sefydlodd Llywodraeth Cymru gronfa ariannol i agor canolfannau Cymraeg hyd a lled Cymru er mwyn hybu defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu ato gan ofyn iddo ddefnyddio'r gronfa i gynorthwyo'r Saith Seren yn y dref.  

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn y Llywodraeth, mae Aled Powell cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i'r Llywodraeth gynnig cymorth i'r dafarn gymunedol: 

"Fe glywsom yr wythnos hon bod y ganolfan yn gorfod cau oherwydd trafferthion ariannol. Credwn fod y ganolfan yn gwneud cyfraniad pwysig i ddefnydd y Gymraeg yn y dref, ac y byddai'n drueni mawr pe bai hi'n diflannu fel adnodd cymunedol. Rydym yn falch eich bod fel Llywodraeth wedi rhoi cryn bwyslais ar bwysigrwydd defnydd y Gymraeg yn y gymuned: credwn y byddai cynnig cymorth i'r ganolfan hon yn ffordd o hybu'r Gymraeg yn Wrecsam.    

"Rydym yn ymwybodol bod gennych gronfa gyfalaf, fel rhan o raglen "Bwrw 'Mlaen", ar gyfer cefnogi canolfannau o'r fath. Gofynnwn i chi ystyried defnyddio'r gronfa hon er mwyn cynorthwyo'r ganolfan hon i aros ar agor. Byddwch yn ymwybodol bod nifer fawr o wirfoddolwyr wedi gweithio'n galed, a chyfrannu'n ariannol ac o'u hamser fel rhan o'r fenter hon. Fodd bynnag, mae nifer o broblemau ariannol yn deillio o'r costau rhent ... felly gallai eich arian cyfalaf fod o gymorth mawr wrth oresgyn yr heriau hynny"