Toriadau pellach i S4C? Ymgyrchwyr yn mynnu datganoli darlledu

Mae swyddogion y Gymdeithas yn mynnu bod angen datganoli'r cyfrifoldeb dros ddarlledu yn sgil sylwadau gan weinidog mewn pwyllgor yn San Steffan heddiw (Mercher 18fed Ionawr) bod bwriad torri dros £700,000 o grant S4C eleni.

Yn y ddadl, dywedodd Matthew Hancock, Aelod Seneddol Gorllewin Suffolk, sydd yn weinidog â chyfrifoldeb dros polisi digidol, bod grant uniongyrchol y Llywodraeth i'r sianel, sydd werth £6.8 miliwn eleni, "wedi ei osod i fod yn £6.058 miliwn" ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth i aelodau seneddol gwestiynu'r toriad arfaethedig, dywedodd hefyd "fod yr ysgrifennydd gwladol yn edrych ar y mater hwnnw".

Fis yn ôl, datganodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn gwrthod talu ei ffi drwydded mewn ymdrech i ddatganoli'r grym dros ddarlledu i wleidyddion yn y Cynulliad. Bydd y mudiad yn lansio papur ym Mangor ddydd Sadwrn gan gyflwyno buddion posibl rhoi gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn gyfrifol am y sbectrwm darlledu.  

 

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Gymdeithas: “Os yw'n wir y bydd toriadau pellach, byddai'n destun pryder mawr, nid yn unig i S4C a'i gweithwyr, ond i gyflwr y Gymraeg hefyd. Rwy'n methu credu bod y Ceidwadwyr yn bwriadu torri eu maniffesto i ddiogelu cyllideb S4C, yn enwedig ar ôl ceisio gwneud yr un peth y llynedd. Mae hyn ar ben y toriadau arswydus a wnaed ers 2010: mae fel bod y Llywodraeth yn Llundain yn ceisio mygu ein hunig sianel deledu Gymraeg i farwolaeth. Mae’n fater o frys bellach bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru, nid yn unig achos y newyddion diweddaraf hyn. "O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol a wnaed eisoes i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru, nid Gweinidogion yn Llundain sydd gyda dim diddordeb yn ein gwlad heb sôn am ein hiaith."

Mewn llythyr a anfonwyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dderbynion nhw wythnos diwethaf am y sianel, mae Ysgrifennydd Cymru yn dweud: "Ni wnaed unrhyw newidiadau i'r cyllid arfaethedig ar gyfer y flynyddoedd i ddod yn Natganiad yr Hydref". Y cyllid arfaethedig mae Alun Cairns yn cyfeirio ato yw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ym mis Tachwedd 2015 y byddai toriad o 25% i'r grant o £6.7 miliwn y maent yn rhoi i'r sianel. Daeth hynny er gwaethaf addewid clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2015 i "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C". Gwnaed tro pedol dros dro gan rewi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn unig, ond doedd dim sôn am y cyfnod wedi hynny. Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 40% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain, ac arbedon nhw 93% o’u grant i’r unig sianel Gymraeg.

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf: “Felly, mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus; mae'r BBC wedi penderfynu dod â'r arbrawf Radio Cymru Mwy i ben; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr o ganlyniad i ddarlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Mae hyd yn oed ymddiriedolwraig y BBC yng Nghymru yn gwneud synau cadarnhaol am ddatganoli."

Yn natganiad Hydref y Canghellor y llynedd, cyhoeddwyd y bydd cyllideb yr adran ddiwylliant yn codi o £65 miliwn dros y pedair blynedd nesaf gyda phlasty yn swydd Efrog yn elwa o grant ychwanegol gwerth £7.6 miliwn.