Trydedd achos llys i Toni Schiavone dros rybudd parcio uniaith Saesneg

Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn wynebu trydedd achos llys ddydd Gwener (26 Ionawr) oherwydd iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg. 

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith byddai cyfieithu’r rhybudd, ac osgoi tair achos llys dros gyfnod o dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng £60 a £70.

Derbyniodd Mr Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020 am beidio talu am barcio mewn maes parcio yn Llangrannog. Er i’r achos llys gael ei thaflu allan ddwywaith yn barod, mae cwmni parcio One Parking Solution unwaith eto’n apelio. Methodd y cwmni fod yn bresennol ar gyfer yr achos cyntaf a thaflwyd yr ail achos o’r llys gan y cyflwynwyd yn hwyr ac o dan yr amodau anghywir.

Yn siarad o flaen ei achos llys, dywedodd Toni Schiavone: 

“Pe bai One Parking Solution yn darparu copi Cymraeg o’r rhybudd i mi fel mae llawer o gwmnïau parcio eraill eisoes yn gwneud, bydden i’n gwbl barod i’w dalu. Yn lle hynny, maen nhw’n mynnu mynd â fi i’r llys dro ar ôl tro i drio fy ngorfodi i dalu’r rhybudd yn Saesneg.

“Yn ôl y cwmni, gan fy mod yn deall Saesneg, does dim angen iddyn nhw barchu fy hawl i ddefnyddio fy iaith fy hun yn fy ngwlad fy hun. Mae’n gwbl sarhaus.”

Dywedodd Cai Phillips, Is-gadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Mae agwedd y cwmni yn gwbl hurt. Rydym ni wedi cael gwybod gan sawl cwmni cyfieithu y byddai cost cyfieithu’r rhybudd gwreiddiol i’r Gymraeg rhwng tua £60 a £70. Ond, yn lle gwneud hyn a pharchu hawl Mr Schiavone, mae One Parking Solution wedi mynnu mynd i’r llys am y trydydd tro gan dalu’r holl ffioedd cyfreithiol costus yn y broses.

“Mae’r anghydfod yma’n yn adlewyrchu methiannau ehangach Mesur Iaith 2011 i warantu hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat. Yn ddiweddar, fe gollodd cwsmeriaid HSBC y gallu i ffonio eu banc trwy gyfrwng yr iaith. Ddydd Sadwrn roedd rhai yn picedu Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd agwedd wrth-Gymraeg a diffyg gwasanaeth Cymraeg yno. 

“Ers i ni ddechrau ein hymgyrch i beidio talu rhybuddion parcio uniaith Saesneg, mae unigolion ar hyd a lled Cymru wedi gwrthod talu ac mewn sefyllfaoedd tebyg i Toni. Mae’n allweddol ein bod yn parhau i bwyso i gryfhau Mesur Iaith 2011 ei hun yn ogystal a’i weithrediad.