Seminar Mesur Iaith Newydd - Gogledd

12/09/2016 - 12:30
Canolfan Busnes Conwy 12:30 - 16:00

A hoffwch fod yn rhan o sicrhau Mesur newydd a fydd yn addas i bobl Cymru?

Mae'r llywodraeth wedi gaddo diwygio Mesur y Gymraeg 2011, felly mae'r Gymdeithas wedi bod wrthi'n paratoi dogfen gyda galwadau hoffent ei weld yn y ddogfen newydd.

Pwrpas y seminar hon fydd i gasglu gwybodaeth a sylwadau ar y ddogfen yma cyn ei chyflwyno fis Medi, er mwyn sicrhau bod ein galwadau am fod yn rhai cadarn a dichonadwy.

Dyma'r linc i'n dogfen: http://cymdeithas.cymru/sites/default/files/CyIG%20Cryfhau%20Mesur%20A4(1).pdf Mae'r seminar yn agored i'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y maes ynghyd ag academyddion, cwmnïau a mudiadau.

 
Os eich bod yn awyddus i fynychu, archebwch eich lle drwy gysylltu gyda Bethan Ruth ar gogledd@cymdeithas.cymru Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mi fuasem ni'n gwerthfawrogi yn fawr petai chi'n gallu paratoi sylwadau am y ddogfen, a byddai unrhyw sylwadau pellach am gryfderon neu methiannau'r Mesur fel y mae hi ar hyn o bryd i'w chroesawu.