Cymunedau Rhydd

Cymdeithas yn cyfarfod Edwina Hart

deddf_eiddo.gifDaw blwyddyn o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dros ddyfodol cymunedau Cymru i ben ddydd Mercher pan fydd dirprwyaeth o'r Gymdeithas yn cyfarfod Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio.

Cymunedau Cymru yn codi eu llais mewn Rali

cyf_cyff_2004.JPGDaeth dros 300 o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i rali yng Nghaerdydd dydd Sadwrn i alw ar lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith dros ddyfodol cymunedau Cymraeg. Cynhaliwyd y rali ar drothwy cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith ac Edwina Hart ar Dachwedd 26ain.

Cefnogaeth Genedlaethol eang i ymgyrch tai Cymdeithas yr Iaith

deddf_eiddo.gifDydd Sadwrn yma (Tachwedd 15), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddu enwau'r llu o gynghorau cymuned - o bob rhan o Gymru - sydd wedi datgan cefnogaeth i'w ymgyrch tai trwy arwyddo'r - Datganiad dros ddyfodol cymunedau Cymru.

Aelodau Ifanc yn datgan gwrthwynebiad i bolisiau tai Cyngor Ceredigion

deddf_eiddo.gifAm 9.30 o'r gloch dydd Iau yma (Hydref 30), bydd rhai o aelodau ifanc Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion yn cyflwyno deiseb i Dai Lloyd Evans, Arweinydd y Cyngor Sir. Mae'r ddeiseb yn mynegi gwrthwynebiad i'r polisiau tai a amlinellir yn y Cynllun Datblygu Unedol presennol ac yn galw ar y Cyngor i weithredu strategaeth gyflawn er lles cynunedau Cymraeg y sir.

Galw ar Lywodraeth Cymru i 'Gyllido Dyfodol i'n Cymunedau'

deddf_eiddo.gifYn dilyn cyhoeddi cyllideb drafft y Cynulliad ddoe, bydd Cymdeithas yr Iaith heddiw yn tynnu sylw Aelodau'r Cynulliad at rai o'r camau hynny sydd angen eu cymeryd, cyn cyflwyno'r fersiwn derfynol ym mis Tachwedd, er mwyn sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn digwydd mewn cyfarfod lobio a gynhelir am 1pm yn Ystafell Bwyllgor 5.

Lobio y Cynulliad er gwaethaf cwynion Aelodau Llafur

logoWAG.jpgYfory (Mercher, Hydref 15), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal diwrnod lobio yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn tynnu sylw at y camau hynny y dylai Llywodraeth Cymru eu cymeryd erbyn cyhoeddi ei gyllideb lawn, er mwyn sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn waith amserol iawn, gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r fersiwn draft o'r gyllideb honno heddiw.

Cyngor Byddar Ceredigion

 crestceredigion.gif Yn dilyn cyfarfod o gabinet Cyngor Ceredigion a gynhaliwyd yr wythnos yma mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo arweinyddiaeth y Cyngor o fethuín llwyr ag ymateb i ddyheadau pobl y sir, gan baratoi Cynllun Datblygu Unedola fydd yn sicrhau dyfodol i gymunedau lleol aír iaith Gymraeg.

Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad weithredu cyn y Gyllideb nesaf

logoWAG.jpgAr drothwy'r ddadl ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gynnal yn y Cynulliad prynhawn yma, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu a phob un o Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at gamau penodol y gall y llywodraeth eu cymryd i leddfu'r sefyllfa. Pwysleiswyd fod rhai camau y dylid eu cymryd erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad.

Cyllidwch ein Cymunedau: Her i Lywodraeth Cymru

deddf_eiddo.gifEr mwyn sicrhau dyfodol cynaladwy iín cymunedau, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cynydd mawr yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd sefydluír ëHawl i Rentuí erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad ym mis Tachwedd.

Trydydd Diwrnod Taith Gerdded o Langefni > Gaerdydd

deddf_eiddo.gifAr y dydd Llun (Awst 18ed) mae Taith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Langefni i Gaerdydd ar ei thrydydd diwrnod ac yn mynd o Benygroes i Bwllheli. Ym Mhenygroes daeth criw ynghyd i ddymuno'n dda i'r cerddwyr. Yn eu mysg roedd Angharad Tomos, Ben Gregory a Judith Humphreys. Roedd yr Aelod Cynulliad lleol Alun Ffred Jones a Walis Wyn George, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri yno hefyd.