Gwynedd Môn

Noson John Peel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Noson John PeelMae Radio 1 wedi datgan mai 12 Hydref yw dyddiad Diwrnod John Peel eleni. Ledled y byd, bydd gigs a digwyddiadau cerddorol yn cymryd lle, i gofio am y dyn a wnaeth gymaint dros gerddoriaeth amgen. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â nhw gan gynnal noson arbennig yn y Greeks ym Mangor Uchaf.

Codi baner Deddf Iaith ar bontydd

Bydd y faner yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf gan alw draw i Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ac i achos llys Angharad Blythe yng Nghaerdydd ar y 6ed o Fehefin.Mae Angharad yn gwynebu achos o ddifrod troseddol yn erbyn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn gweithred ym mis Rhagfyr pan beintiwyd slogan ar Bencadlys y Llywodraeth ym Mharc Cathays yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Achos tai Penmorfa - Prawf o anallu'r drefn gynllunio i ddiogelu lles yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgYn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datblygiad arfaethiedig o ddeuddeg aneddle newydd ar safle'r Wern ym Mhenmorfa, ger Porthmadog, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn perthynas a phenderfyniadau ym maes cynllunio.

Arestio 2, 11 yn derbyn dirwy yn y man a'r lle

Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw, a dirwywyd 9 arall £80 yn y man a'r lle ar ol iddynt gadwyno eu hunain i adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon. Buont yno ers 11.30am y bore 'ma yn gweiddi 'Deddf Iaith newydd', ac yn arddangos baneri.

Protest dros Goleg Aml-safle Cymraeg – Heddlu'n Ymyrryd

Protest Coleg FfederalMae 6 aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i fynd ar dô Prifysgol Bangor i ymuno a'r 15 aelod sydd wedi bod ar dô Prifysgol Aberystwyth am yr awr ddiwethaf. Mae'r 21 aelod yma yn ogystal a 3 aelod pellach sydd yno'n cefnogi criw Bangor, yn cymeryd rhan mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg.

Protest Siop 'Blacks', Betws y Coed

BlacksBu dros 20 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn protestio tu fewn i siop Blacks ym Metws-y-Coed heddiw, wedi i aelod o staff yno geryddu Dilwyn Llwyd o Gaernarfon, am siarad Cymraeg. Yn dilyn y brotest, fe ddatganodd yr ymgyrchwyr y bydd mwy o brotestiadau, os na fydd rheolwyr y siop gadwyn yn barod i gynnal cyfarfod i drafod ei polisi iaith.

Cymdeithas Peldroed Cymru - Dal i weithredu'r Welsh-Not

FAWMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'n hallt Ysgrifennydd Cyffredinol yr FAW, David Collins a Chyngor yr FAW oherwydd eu polisi gwrth-Gymraeg, Saesneg yn unig, enghraifft arall o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.Atebodd John Pritchard, Ysgrifenydd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch, lythyr yn ddiweddar oddiwrth yr FAW, yn Gymraeg, ac er syndod a siom iddo dderbyniodd yr ateb canlynol:"I can infom you that the Football Ass

Agwedd hiliol siop 'Blacks'

BlacksMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn cwyn yn ymwneud ag agwedd negyddol siop Blacks ym Metws-y-Coed tuag at yr iaith Gymraeg. Ar ddydd Gwener 24/03/06 fe aeth Dilwyn Llwyd o Gaernarfon a'i bartner i'r siop gyda ymholiad. Cafodd Mr Llwyd ymateb hiliol ac amharchus gan yr aelod o staff.

Llongyfarchiadau i'r grwp adloniant

logo_adloniant_tafod.jpgLlongyfarchiadau mawr iawn i Owain Schiavone a gweddill grwp adloniant Cymdeithas yr Iaith, trefnwyr gigs 'Steddfod 2005 y Gymdeithas yn Eryri y llynedd, am ennill gwobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn' yng ngwobrau RAP 2006 dros y penwythnos.

Ympryd i gefnogi carcharor

Gwenno TeifiBydd 28 o fyfyriwr Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ympryd rhwng 9yb heddiw hyd nes i Gwenno Teifi gael ei rhyddhau o'r carchar, er mwyn dangos cefnogaeth iddi a'i safiad dewr dros Ddeddf iaith Newydd, yn dilyn ei charchariad gan Llys Ynadon Caerfyrddin ddoe.