Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi datgan cefnogaeth i fwriad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddiwygio'r broses ddadleuol o ymgynghori ynghylch ad-drefnu ysgolion yn y sir - sydd wedi cynnwys cau ysgolion pentre a newid categori ieithyddol ysgolion eraill.
Mae adroddiad ar y broses ymgynghori yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet heddiw
Dywed Ffred Ffransis: "Mae pobl yn Sir Gâr yn gyffredinol wedi teimlo dros y blynyddoedd mai ffug oedd ymgynghoriadau am ddyfodol ysgolion a oeddent mor bwysig i'w cymunedau, ac nad oedd dim yn newid o ganlyniad i leisio barn. Croesawn felly fwriad y Cyngor newydd, a drafodir gan y Cabinet heddiw, i sefydlu trefn lle bydd ymgais fwy difrifol i geisio consensws mewn cymunedau lleol cyn cyhoeddi cynlluniau.
"Cefnogwn yn arbennig y gosodiad mai proses, nid digwyddiad, yw symud ysgolion ar hyd y continwwm tuag at addysg Gymraeg, a'r gosodiad y dylai ymgynghoriad i symud ysgolion ar hyd o continwwm ddod o dan Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, yn hytrach nag ymgynghoriad llawn bob ar cam, sy'n oedi'r broses o sicrhau fod pob disgybl yn dod yn rhugl yn y ddwy iaith. Rhybuddiwn fodd bynnag na ddylai nod o symleiddio proses ymgynghori am ddyfodol ysgolion fyth dod yn air mwys am gau ysgolion er mwyn hwylustod gweinyddol"
Rydyn ni wedi gwahodd cynghorwyr a chynrychiolwyr addysg at ei Fforwm Agored blynyddol "Tynged yr Iaith yn Sir Gâr - Addysg yw'r Allwedd" a gynhelir ddydd Sadwrn 15ed Hydref yn Llyfrgell Caerfyrddin.
Croesawn yn fawr y ffaith fod Arweinydd y Cyngor, Cyng Darren Price, ynghyd â swyddogion wedi cytuno i ddod i ateb cwestiynau gan y cyhoedd ac i gyfrannu at y trafodaethau.
Bydd cyfle i drafod:
- Cynllun "Moderneiddio" Addysg
- Continwwm Addysg Gymraeg
- Addysg Gymraeg ar gyfer byw a gweithio yn Sir Gâr
Mae manylion llawn y fforwm i'w gweld yma