Mewn datganiad ar y cyd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith wedi mynegi pryder ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn dilyn cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, penderfynodd swyddogion Adran Addysg Cyngor Gwynedd osod yr ysgolion uwchradd (ac eithrio Ysgol Friars ac Ysgol Tywyn) yng Nghategori 3. Bydd ysgolion y categori hwn yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o’r disgyblion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
Yn ôl y mudiadau, dydi Categori 3 ddim yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd Gwynedd, a hynny am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r ymadrodd ‘ystod eang’ sy’n cyfeirio at nifer y Meysydd Dysgu a Phrofiad cyfrwng Cymraeg yn gwbl annelwig ac amhendant, ac felly’n ddiffygiol fel disgrifiad ac fel canllaw i’r ysgolion
2. Mae’n nodi isafswm cwbl annigonol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond ni nodir yr uchafswm. Mae’n caniatáu i gyn lleied â chwech o bob deg disgybl dderbyn llai na thri chwarter eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda bron draean drwy’r Saesneg. Nid yw’n rhoi disgrifiad o’r ddarpariaeth fydd ar gyfer y 40% arall o’r disgyblion.
3. Mae’n annigonol i wrthsefyll a gwrthweithio’r grymusterau ieithyddol a diwylliannol sy’n erydu a thanseilio strwythur a gwead cymdeithasol y bywyd Cymraeg yng nghymunedau Gwynedd.
Mae’r mudiadau yn tynnu sylw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’n glir mai bwriad y categoreiddio newydd ydi "annog ysgolion i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg ... a hwyluso’r broses i ysgolion symud i’r categori nesaf ... i ysgolion dyfu eu darpariaeth Gymraeg."
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae bwriad Cyngor Gwynedd i ddynodi ysgolion yn rhai Categori 3 yn dangos bod angen arweiniad a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a'i bod yn allweddol i'r Ddeddf Addysg Gymraeg y bydd Llywodraeth yn ei chyflwyno o fewn y misoedd nesaf yn sicrhau addysg Gymraeg i bawb, fel nad oes unrhyw un yn cael ei amddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus.
Dywedodd Angharad Tomos ar ran rhanbarth Gwynedd Cymdeithas yr Iaith:
"Dylai Cyngor Gwynedd fod yn arwain gydag Addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, a dylai gynnig yr un ddarpariaeth ag ysgolion Cymraeg dynodedig mewn siroedd eraill. Mae’n gwbl anfoddhaol ac annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac o aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o addysg cyfrwng Cymraeg na disgyblion ysgolion dynodedig Gymraeg mewn siroedd eraill.
"Mae pobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig. Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Ni ddylid colli’r cyfle hwn. Heb weithredu’n awr i wrthweithio’r tueddiadau niweidiol byddant yn ein goresgyn a bydd yn rhy ddiweddar wedyn. Rhaid edrych ar y sefyllfa’n wrthrychol ac yn onest, a gweithredu’n gadarn ac yn hyderus."
Mewn neges Dydd Gŵyl Dewi mae’r mudiadau yn galw ar Gyngor Gwynedd i roi ysgolion uwchradd y sir yng nghategori uchaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ac am sefydlu trefn effeithiol o fonitro.