Cefnogi Safiad Sian Gwenllian - Y Gymraeg yn hanfodol yng Ngwynedd

24/01/2015 - 12:00

12pm, Dydd Sadwrn, 24ain Ionawr

Sgwâr y Pendist (Turf. Sq), Caernarfon

Siaradwyr:  Sian Gwenllian, Dafydd Iwan, Menna Machreth, Simon Brooks, Ieu Wyn, Hywel Williams AS

Ym mis Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) hysbysebu dwy o'i swyddi haen uchel heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg.

Yn dilyn yr helynt, ymddiswyddodd y Cynghorydd Siân Gwenllïan o fwrdd rheoli y corff. Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg nad oedd y corff wedi rhoi eglurhad ddigon manwl i swyddfa'r Comisiynydd ynglŷn â'u penderfyniad i beidio â gwneud y Gymraeg yn amod.

Dewch i Gaernarfon er mwyn gwrthdystio yn erbyn penderfyniad CCG, ac i fynnu bod y Gymraeg yn cael ystyriaeth lawn wrth recriwtio gan CCG, mewn ardal lle mae canran helaeth o denantiaid CCG yn Gymry Cymraeg.