Cell Celf Bethesda - Ap. P

29/01/2016 - 19:00

Neuadd Ogwen, Bethesda

Croeso i bawb i lansiad Cell Celf 'Ap.P' - boed eich bod yn siaradwyr Cymraeg, yn ddysgwyr, ddim yn siarad Cymraeg, ddim o Fethesda, ddim o Gymru hyd yn oed - yr oll sydd ei hangen yw diddordeb a/neu brofiad o fywyd yng Nghymru, meddwl agored a chefnogaeth yn ein hymdrech i uno cymdeithas Bethesda drwy iaith weledol.



Ysbrydoliaeth fwyaf sefydlu'r Gell hon yw Grŵp Beca (GB). Grŵp o artistiaid oedd yn weithgar rhwng yr 70au ar 90au a greodd chwyldro i gelf yng Nghymru drwy gyflwyno celf gyfoes wleidyddol ar yr iaith a materion diwylliannol Cymru.



Bydd y Gell Celf yn estyniad modern o waith a meddylfryd GB gan hybu 'phsyche' newydd i greu Cymru mwy hyderus, cryf a hapus wrth rannu profiadau, syniadau a chreu gyda’n gilydd. 



*Yr hanes tu ôl i'r enw 'Ap.P.':

Fel cafwyd 'Grŵp Beca' ei henw ar ôl 'Merched Beca' mae 'Ap.P.' wedi ei henwi er cof am un o artistiaid fwyaf radical Cymru, Ap Paul/Meibion Paul.