Yng Nghanolfan Gymunedol y Glowyr, 26 Bryngwyn, Caerffili, CF83 1ET - Cyfraniad ar y drws.
Mae Cell Caerffili a Blaenau Gwent yn cyflwyno: GIG Y GLOWYR!
Ar nos Wener y 13fed o Dachwedd yn Nghanolfan y Glowyr, Caerffili dewch i fwynhau perfformiadau radicalaidd gan:
Efa Supertramp
Mae Efa yn chwarae math ei hunain o gwerin-bync a wedi gwario'r blynyddoedd diwethaf yn perfformio ar draws Ewrop a gwledydd Prydain. O Aberdeen i Sofia, via Belgrade & Berlin; mae'n perfformio mewn protestiaudau, squatiau, y strydoedd, ystafelloedd fyw, bars a mewn gwyliau.
Jamie Bevan
Canwr pseudo-gwerin o Ferthyr Tudful mae cerddoriaeth Jamie yn paentio darlun bywiog o fywyd cyfoes yng Nghymoedd de Cymru. Rhybudd - bydd rhai o'i ganeuon yn sownd yn eich pen am ddyddiau!
Barry Taylor
Canwr gwerin gwleidyddol o Bontllanfraith. Gweriniaethwr asgell-chwith â'i wreiddiau'n ddwfn yn y Cymoedd.