Cyfarfod o'r Grŵp Addysg

01/05/2024 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesa'r Grŵp Addysg dros Zoom am 7.00, nos Fercher 1 Mai 2024.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod materion sy'n ymwneud â phob sector o'r byd addysg, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp. Ac os nad ydych chi'n siwr, dewch i'r cyfarfod er mwyn gweld beth yw beth!

Yn dilyn lansiad gwaith ystadegol y Gymdeithas i gyd-fynd â'n Deddf Addysg Gymraeg ni, sydd i'w weld yma, byddwn ni'n trafod sut i'w rannu a gwneud defnydd llawn o'r wybodaeth; ynghyd â materion eraill.

Cysylltwch i ymuno neu os am wybodaeth ychwanegol.