Pryd?
8yb wrth i'r Siop Newydd agor ar ddydd Mawrth y 31ain o Orffennaf
Lle?
Parc Manwerthu Clwyd (Clwyd Retail Park) Rhuddlan, Rhyl LL18 2TJ
Ond pam parti?
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod mewn parti rywbryd pryd y mae'r teulu wedi anghofio dod ag anrhegion i wahoddedigion.
Wel, dyna sy gyda ni heddiw - mae Iceland wedi eich gwahodd chi i gyd draw, ond wedi anghofio dod ag arwyddion Cymraeg i ni i ddangos parch at Gymru!
Atgoffwch nhw yn garedig pan ewch chi mewn neu drwy gysylltu â 08003 280 800 - ein bod yn disgwyl yn eiddgar i gael gweld arwyddion a gwasanaeth Cymraeg.
Ymunwch ac aelodau Rhanbarth Glyndŵr tu allan i siop Iceland - byddwn yn rhoi taflenni allan i gwsmeriaid a staff ac yn cael presenoldeb positif yno gan obeithio bydd y siop newydd yn cychwyn y cwmni yma ar ei thaith at gynnig gwasanaeth cyflawn Cymreig.