Protest Brys: Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi Cymraeg

21/11/2018 - 16:00

Protest - dewch i ddangos gwrthwynebiad i bolisïau ad-drefnu ysgolion ym Môn

Mynedfa Cyngor Môn, Llangefni

Dydd Mercher, 21/11/2018 am 4yh

Croeso i bawb, plant ac oedolion. Byddwn yn cychwyn am 4 ond yn croesawu pobl sydd rhaid dod yn hwyrach, byddwn yno tan 5. Dewch a'ch placardiau a'ch baneri yn mynnu dyfodol i'n plant a'n pentrefi.

Ar y 21ain o Dachwedd bydd trafodaeth dyngedfennol yn cael ei gynnal yn ein Senedd yng Nghaerdydd. Ffrwyth llafur pobl leol Bodffordd a Chymdeithas yr Iaith yn hel 5000 o lofnodion sydd wedi galw am y drafodaeth yma i gael ei chynnal. Mae hyn er mwyn i’r rhai mewn grym ystyried y cod trefniadaeth ysgolion yng ngwyneb Chynghorau hy sydd yn anwybyddu’r bobl, y cynulliad a’i deddfau. Mae’r broses o ad-drefnu ysgolion ym Môn yn gwneud ffars o ddeddf gwlad.

Mae Ysgol Bodffordd yn achos prawf pwysig. Os gellid cau ysgol orlawn sy'n ffynnu gellid gau unrhyw ysgol wledig o'r fath. Dewch i gyd-sefyll dros holl ysgolion gwledig a Chymreig yng Nghymru. Bydd yn “brotest aml-safle” gyda phrotest arall yng Nghaerdydd ac Aberystwyth i bwyso ar y rhai mewn grym i ystyried y mater yma o ddifri.

Dewch, rhieni, plant, athrawon a charedigion y Gymraeg a’n cymunedau i brotestio a dangos na fyddwn yn dodda' y fath driniaeth yn enw biwrocratiaeth a llymder. Byddwn yn cwrdd o flaen Cyngor Môn yn Llangefni am 4yh ar bnawn Mercher y 21ain o Dachwedd. Dewch yn llu!

Gyrrwch neges at gogledd@cymdeithas.cymru am ragor o wybodaeth.