05/07/2014 - 11:00
Dewch i gefnogi un o gelloedd ifanca'r Gymdeithas wrth iddyn nhw alw ar Gyngor Casnewydd i ddangos cefnogaeth i'r Gymraeg a galluogi i drigolion y ddinas fyw yn Gymraeg. Mae'r Cyngor Casnewydd wedi bod mor wrthwynebus i'r Gymraeg, ond nawr mae'r gell am fynnu newid!
Lleoliad: Hen Orsaf Rheilffordd, Queensway, Casnewydd, NP20 4AX
Pryd: 11yb ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Orffennaf.
Siaradwyr: Jamie Bevan, Steve Blundell, Robin Farrar
Cyfarfod Cyngor
Bydd Cyfarfod Cyngor y Gymdeithas yn dilyn y brotest am 12yp, Gwesty Wetherspoon y Queen's (y gwesty nid y dafarn), 18-22 Heol y Bont, Casnewydd, NP20 4AN. Mae'r fynedfa gyferbyn â Peachy Keen's a'r Travelodge.