Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth

04/05/2024 - 14:00

Dewch yn llu i Flaenau Ffestiniog ar 4 Mai ar gyfer Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth.
Cyfarfod tu ôl i Gaffi Antur Stiniog ym Maes Parcio Diffwys, Blaenau Ffestiniog am 2.00 yp.

Siaradwyr: Beth Winter, Craig ab Iago, Mabon ap Gwynfor a Ffred Ffransis gyda Dewi Prysor yn arwain.

Hefyd, bydd Mel Davies, Siân Northey, Elfed ap Elwyn, Arfon Jones, Sara Ashton, Elin Hywel, Catrin O’Neill, Joseff Gnagbo a Sel Williams yn arwyddo datganiad "Deddf Eiddo  Dim Llai!":
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso'n cymunedau lleol.
Ni all ein cymunedau aros rhagor - mae'n bryd gweithredu.

Ar ôl y rali, bydd Morgan Elwy yn chwarae yn y Clwb Rygbi. Mwy o fanylion i ddilyn.
 
Llwybr yr Orymdaith
 
Bydd rali arall ym Machynlleth ar ddydd Sadwrn, 14 Medi – cadwch y dyddiad yn rhydd!