Rhwng mis Mai y 25ed a'r 30fed fe fydd Uned Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd!
Bydd pob digwyddiad ar ein Uned yn yr Eisteddfod (unedau 33/34). Dewch i ffeindio ni! Byddwn gyferbyn â Chaffi Mr Urdd.
Digwyddiadau'r wythnos:
Dydd Llun 25/5 - Lansiad Llyfr Welsh Not 21 am 1.30yh ar yr Uned.
Dydd Mawrth 26/5 - Gyda'r hwyr am 7yh yng Nglwb Rygi Nelson bydd "Noson Pride: 30 Mlynedd ers Streic y Glowyr"
Dydd Mercher 27/5 am 1:30pm - WN Mewn Addysg Gynradd - Hap a Damwain neu Loteri Cod Post yw darpariaeth ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn eich cymuned, a bydd ysgolion eraill yn parhau gyda methiant "Cymraeg Ail Iaith" byddwn yn cyflwyno llythyr ar y maes i ddod a sylw at hyn.
Dydd Sadwrn 30/5 am 1:30pm - Cyflwyno Llyfyr Welsh Not 21 at Lywodraeth Cymru - Gyda Keith Davies AC, Cor Cochion Caerdydd ac eraill.
Bydd llawer mwy yn digwydd ar yr Uned drwy gydol yr wythnos. Dewch draw i gymryd rhan yn cystadleuaeth dylunio crys-t neu i sgwrsio am yr hyn sydd yn bwysig i CHI - ymunwch a'r frwydr dros hawliau a rhyddid
Eisiau Gwirfoddoli?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i greu propiau i'r Uned, gwirfoddoli yn yr Eisteddfod ei hunain, ac i grwydro'r maes mewn siwt tafod enfawr yn radicalieddio ieuenctid Cymru.
Cysylltwch â de@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920486469 os allech gyfrannu.