Trefnu Rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog

12/03/2024 - 19:00

7.00, nos Fawrth, 12 Mawrth
Ystafell Cwmni Bro, Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog (5 Stryd Fawr, LL41 3ES)

Bydd rali Nid yw Cymru ar Werth Blaenau Ffestiniog yn cael ei chynnal ar 4 Mai eleni.

Mae'n flwyddyn bwysig i'n cymunedau Cymraeg felly mae'n addas iawn ein bod ni'n cynnal rali ym Mlaenau Ffestiniog.

Ond mae angen help arnon ni! Mae'r gwaith trefnu wedi cychwyn yn barod, ac yn y cyfarfod hwn byddwn yn trafod sut i hyrwyddo'r rali, a digwyddiadau yn arwain ar y rali.

Os nad ydych yn gallu dod i'r cyfarfod hwn ond am fod yn rhan o drefnu'r rali e-bostiwch bethan@cymdeithas.cymru