Addysg Ail Iaith: Condemio'r "Enghraifft waethaf erioed o oedi gan y Llywodraeth"

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio datganiad Carwyn Jones y bydd "yn well
dal arni am ychydig ar ein hymateb" i adroddiad yr Athro Sioned Davies am
weddnewid dysgu Cymraeg ail iaith yn y cwricwlwm.

Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis "Mae'n anhygoel fod y
llywodraeth yn cymryd 8 mis i ymateb i'r adroddiad, ac yna y cyfan sydd gyda nhw
i'w ddeud yn y bon yw eu bod nhw am aros am flwyddyn arall i weld beth sydd gan
yr adroddiad nesaf i'w ddweud am yr adroddiad hwn! Dyma efallai'r enghraifft
waethaf erioed o oedi gan lywodraeth Cymru ac yn dangos nad yw sicrhau fod pobl
ifainc Cymru'n cael eu harfogi gyda sgil cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg yn
unrhyw fath o flaenoriaeth ganddynt."

Ychwanegodd "Mae Carwyn Jones ei hun yn dweud yn y datganiad heddiw ei bod yn
"hollol glir o'r adroddiad bod rhaid i'r system gyfredol o ddysgu ac addysgu
Cymraeg mewn ysgolion Saesneg newid". Roedd cyfle ganddo i wneud hynny'n syth
trwy ystyried y mater yng Ngham 1 yr adolygiad cwricwlwm ar lythrennedd a
sgiliau cyfathrebu. Bu'r Gymdeithas ac addysgwyr amlwg yn pwyso arno i wneud
hynny, ond mae'r llywodraeth wedi penderfynu ar lwybr gohirio. Ar waethaf
canlyniadau'r Cyfrifiad, dyw dyfodol y Gymraeg ddim yn unrhyw fath o
flaenoriaeth gan y llywodraeth"

Straeon yn y Wasg:

Golwg 360

Western Mail

Daily Post