Angen i Lywodraeth Prydain barchu hawliau iaith carcharorion

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i adroddiad pwyllgor San Steffan am driniaeth carcharorion a charchar Wrecsam, a gafodd ei ryddhau heddiw.

Meddai Cen Llwyd, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gyflwynodd dystiolaeth i'r pwyllgor:

"Rydyn ni'n croesawu'r sylw mae'r pwyllgor wedi rhoi i nifer o'r problemau difrifol sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg o fewn carchardai ar hyn o bryd. Mae angen i Lywodraeth Prydain weithredu er mwyn sicrhau bod y sefyllfa'n gwella. Does dim llawer wedi gwella ers degawdau; yn sicr mae angen gwella'n sylweddol ar y ddarpariaeth bresennol sydd yn y carchardai yng Nghymru.

"Mae nifer o bryderon gennym am y carchar newydd yn Wrecsam - mae angen i'r staff newydd a fydd yn gweithio yno allu darparu eu gwasanaethau i gyd yn Gymraeg. Mae maint y carchar yn rhy fawr ac yn holl anaddas - mae cwestiynau dilys wedi cael eu codi ynghylch i ba raddau y bydd yn gwasanaethu anghenion Cymru.