Archif Newyddion

21/10/2008 - 09:33
Mae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.
17/10/2008 - 17:35
Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.
16/10/2008 - 22:38
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
15/10/2008 - 22:33
Bydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol.
08/10/2008 - 09:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi.
08/09/2008 - 09:37
Yn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.
11/08/2008 - 11:33
Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg.
11/08/2008 - 10:19
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.
08/08/2008 - 10:44
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
07/08/2008 - 10:39
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.