Archif Newyddion

30/05/2008 - 15:03
Am 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo m
29/05/2008 - 16:23
Mewn ymateb i adroddiad gan swyddogion Gwynedd i'w roi ger bron y Pwyllgor Craffu Addysg Dydd Iau nesaf mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw arnynt i ddiddymu'r cynllun adrefnu ysgolion yn hytrach na'i ddiwygio.
28/05/2008 - 15:25
Cynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un".
26/05/2008 - 14:54
Ar derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”
23/05/2008 - 10:35
"O Ddifri Dros y Gymraeg" yw'r thema sy'n clymu gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cynhelir yr Eisteddfod yng Nghonwy a rhif uned Cymdeithas yr Iaith yw 85 – 86.
20/05/2008 - 08:40
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Dyfed Edwards, arweinydd newydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, fod yn rhaid "edrych eto ar y cynllun drafft" i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.
08/05/2008 - 15:14
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:
03/05/2008 - 23:21
Protest Cymdeithas yr Iaith yn Morrisons CaernarfonMai 3ydd 2008
02/05/2008 - 14:44
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor.
02/05/2008 - 14:41
Yn wyneb y canlyniadau etholiadol ysgubol yn Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor Sir newydd i roi heibio ei gynllun dadleuol i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.Dywed cadeirydd y Gymdeithas yn y sir, Sioned Elin:"Dyma'r etholiad sirol cyntaf ers cyhoeddi'r Cynllun Moderneiddio Addysg yn Sir Gar yn 2005 a'r cyfle cyntaf i etholwyr fynegi eu barn.Yn y maes y