Archif Newyddion

27/05/2005 - 16:27
Fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc.
26/05/2005 - 08:24
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Caerfyrddin o “gymhellion gwleidyddol sinicaidd” wrth gyhoeddi amserlen i drafod y bosibiliad o gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.
18/05/2005 - 09:29
Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.
16/05/2005 - 10:30
Mae Cymdeithas yr Iaith yn datgelu heddiw gynlluniau Cyngor Sir Gaerfyrddin i gyhoeddi ei rhestr du cyntaf o ysgolion pentre i’w cau yn ystod Mehefin. Disgwylid y cyhoeddiad ar ddechrau'r flwyddyn, ond y mae wedi cael ei ddal yn ôl tan yn awr.
15/05/2005 - 08:13
Yn wyneb gwrthodiad Jane Davidson unwaith yn rhagor i gwrdd ag ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol, cyhoeddwyd heddiw y bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu’r cyfarfod ei hunan.
11/05/2005 - 09:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Jane Davidson ei bod wedi gwastraffu blwyddyn gyfan yn gohirio penderfyniad ar gais syml a allai arwain at sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg wedi chwarter canrif o ymgyrchu.
21/04/2005 - 20:56
Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch am fywyd Gwynfor Evans - am ei arweiniad a'i gefnogaeth bob amser i Gymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Rhoi diolch yw'r unig air a gweithred sy'n gweddu ar hyn o bryd. Gallwch dalu teyrnged i Gwynfor ar www.gwynfor.net
19/04/2005 - 13:22
Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."
12/04/2005 - 22:48
Pwyswch yma i fynd i dudalen gigs Steddfod 2005
11/04/2005 - 09:51
Am 9.45am bore Mercher (Ebrill 13), bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trosglwyddo Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i ofalaeth yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd.