Archif Newyddion

04/01/2005 - 13:34
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei ddal yn ceisio camarwain Gweinidog Addysg y Cynulliad ynghylch eu cynllun dadleuol i gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
03/01/2005 - 15:28
Fe ymgasglodd dros 200 o bobl heddiw ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo. Bu adloniant byw ar y Maes cyn i bawb orymdeithio draw i Swyddfeydd y Cynulliad yn y dref, lle cafodd Proclemasiwn gan y Gymdeithas ei godi ar furiau'r Swyddfeydd.
02/01/2005 - 20:22
Yn ystod ei Rali Calan – a gynhelir yfory am 2pm ar y Maes yng Nghaernarfon – bydd Cymdeithas yr Iaith yn condemnio’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
31/12/2004 - 08:00
Ar drothwy Rali Calan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr 3ydd, er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai a’r angen am Ddeddf Eiddo – mae ymchwil brys gan y mudiad, wedi dangos nad oes yr un tŷ ar werth gan arwerthwyr tai yng Nghaernarfon, am bris is na £60,000.
09/12/2004 - 15:20
Am 12 o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn Rhagfyr 11eg bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, o dan arweiniad Sion Corn, yn trefnu trip siopa Nadolig drwy strydoedd Aberystwyth.
08/12/2004 - 10:48
Yn dilyn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin y bore yma pryd y derbyniwyd penderfyniad Bwrdd Gweithredol y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth o gau dros 30 o ysgolion pentrefol Cymraeg, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith y bydd yn ymgyrchu’n ddygn dros gael gwared â’r Strategaeth ac yn sicrhau y bydd llais y cymunedau sydd dan fygythiad yn cael ei glywed.
06/12/2004 - 11:41
Penderfynodd Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyfarfu dros y Sul ysgrifennu at y Prif Weinidog Rhodri Morgan a’r Gweinidog Diwylliant Alun Pugh. Mae’r Gymdeithas am gyfarfod â’r ddau i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dilyn y penderfyniad i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
04/12/2004 - 11:25
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl funud olaf dros y penwythnos ar i gynghorwyr Sir Gaerfyrddin beidio â chaniatau i’w cyngor sir gael ei weithredu fel corfforaeth breifat yn hytrach na fforwm democrataidd y bobl.
30/11/2004 - 11:07
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu bwriad llywodraeth y Cynulliad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Huw Lewis.
25/11/2004 - 17:43
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau gwybodaeth heddiw sy'n chwalu honiad arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, fod consensws gwleidyddol ynghylch eu strategaeth gontrofersial i geisio cau bron bob ysgol sydd â llai na hanner cant o blant yn y sir. Mewn ymateb i'r Gymdeithas, dywed Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol eu bod yn gwrthwynebu'r strategaeth.