Archif Newyddion

29/08/2003 - 13:15
Er mwyn sicrhau dyfodol cynaladwy iín cymunedau, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cynydd mawr yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd sefydluír ëHawl i Rentuí erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad ym mis Tachwedd.
18/08/2003 - 13:20
Ar y dydd Llun (Awst 18ed) mae Taith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o Langefni i Gaerdydd ar ei thrydydd diwrnod ac yn mynd o Benygroes i Bwllheli. Ym Mhenygroes daeth criw ynghyd i ddymuno'n dda i'r cerddwyr. Yn eu mysg roedd Angharad Tomos, Ben Gregory a Judith Humphreys. Roedd yr Aelod Cynulliad lleol Alun Ffred Jones a Walis Wyn George, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri yno hefyd.
08/08/2003 - 13:25
Am y tro cyntaf mae Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal protest ar y cyd a hynny ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod brynhawn dydd Gwener. Bwriad y brotest oedd tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn ymdrin ’'r broblem.
04/08/2003 - 13:31
Yng Nghylch yr Orsedd ddydd Llun galwodd yr Archdderwydd am Ddeddf Iaith newydd. Wrth annerch cyn urddo'r aelodau newydd i'r Orsedd, galwodd Robyn Lewis am "ddeddf iaith newydd wedi'i theilwrio ar gyfer Cymru ddatganoledig yr 21ain ganrif".
02/08/2003 - 13:37
Mae Ffred Ffransis wedi galw ar Eisteddfotwyr canol oed i roi cefnogaeth ariannol hael i Gymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth ei sylwadau wrth gyhoeddi pamffled newydd ar Faes yr Eisteddfod.
29/07/2003 - 15:30
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd ’ llu o bandas at Neuadd y Sir Caerfyrddin am 9am heddiw o flaen cyfarfod Cyngor llawn a fydd yn pleidleisio ar fabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol.
07/07/2003 - 15:34
Mae Alun Pugh, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant a'r Iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cydnabod am y tro gyntaf na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n llawn rhai o nodau sylfaenol eu dogfennau polisi, "Dyfodol Dwyieithog" a "Iaith Pawb".
01/07/2003 - 15:39
Ers 9 o'r gloch neithiwr, mae nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi sefydlu gwersyll ar gae sy'n perthyn i'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans - Arweinydd Cyngor Ceredigion, Mae'r cae ar gyrrion Tregaron ac oddi mewn i ffiniau y Cynllun Datblygu Unedol dadleuol Ceredigion, sy'n argymell codi 6,500 o dai dros y blynyddoedd nesaf.
07/03/2003 - 12:17
CadeiryddHuw LewisIs Gadeirydd YmgyrchoeddManon WynIs Gadeirydd Cyfathrebu a LobioHedd GwynforIs Gadeirydd GweinyddolLyndon JonesTrysoryddDanny GrehanSwyddog Codi ArianAled GriffithsSwyddog AelodaethHeledd GwyndafSwyddog Mentrau MasnacholGwyn Sion IfanGolygydd y TafodNia WilliamsSwyddog Gwefan a DylunioIwan StandleyCadeirydd Grwp Adloniant TafodLlyr EdwardsCadeirydd Grwp Deddf IaithCatrin DafyddSwyddog Ymgyrchu Deddf IaithBethan JenkinsSwyddog Cyfathrebu a Lobio Deddf IaithRhys LlwydCadeiryd