Archif Newyddion

19/05/2004 - 17:13
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ddigon hy heddiw (Mercher 19eg) i gyhoeddi pamffled polisi newydd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad, a'r Cynghorau Sir newydd y mis nesaf, nid yn unig i gydnabod llwyddiant Ysgolion Pentrefol ond hefyd i fabwysiadu fformiwla eu llwyddiant fel sylfaen strategaeth ar gyfer yr sardaloedd trefol hefyd o ran sicrhau llwyddiant addysgol ac adfywiad cymunedol.
11/05/2004 - 17:06
Mewn trafodaeth ar effeithiolrwydd y Cynllun Cymorth Prynu yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan bod y Llywodraeth yn bwriadu edrych yn fanwl ar reolau’r Cynllun dros y deufis nesaf.
06/05/2004 - 15:05
Cafodd saith aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio ym Mhencadlys ‘Orange’ ym Mryste brynhawn ddoe tra'n protestio am Ddeddf Iaith Newydd. Digwyddodd hyn ar ôl iddynt feddiannu rhan o’r pencadlys am dros tair awr a hanner a pheintio sloganau ar y wal.
28/04/2004 - 11:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gaerfyrddin o chwerthin am ben cynghorwyr etholedig a phobl Sir Gâr trwy gyhoeddi fod y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar gynllun pwysig a dyddiad cyhoeddi'r cynllun terfynol ar yr un dydd - a hwnnw'n Wyl Banc !
22/04/2004 - 11:38
Wrth groesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatau i rieni Ysgol Hermon wrandawiad llawn o'u hachos yn erbyn cau ysgol y pentre, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Cymru i gyfrannu at gronfa Ymgyrch Genedlaethol Hermon.
31/03/2004 - 10:37
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aír argymhelliad y dylai fod gan y Cynulliad hawliau deddfu.
25/03/2004 - 12:33
Chwarae mewn band? Bydd Cymdeithas yr Iaith ac C2 yn cyflwyno Brwydr y Bandiau 2004, gyda sesiwn ar C2 i'r band buddugol.
15/03/2004 - 16:09
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu rhai oír pwyntau hynny a gynhwysir yn y datganiad ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar lawr y Cynulliad, brynhawn dydd Mawrth, gan Carwyn Jones, y Gwinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
13/03/2004 - 23:54
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau Deddf Iaith ym Mangor dydd Sadwrn Mawrth 13eg. Cynhaliwyd protestiadau tebyg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin.
07/03/2004 - 12:16
CadeiryddHuw LewisIs Gadeirydd YmgyrchoeddRhodri DaviesIs Gadeirydd Cyfathrebu a LobioHedd GwynforIs Gadeirydd GweinyddolLyndon JonesTrysoryddDanny GrehanSwyddog Codi ArianMeilyr HeddSwyddog AelodaethGwenan SchiavoneSwyddog Mentrau MasnacholGwyn Sion IfanGolygydd y TafodNia WilliamsSwyddog Gwefan a DylunioIwan StandleyCadeirydd Grwp Adloniant TafodOwain SchiavoneCadeirydd Grwp Deddf IaithRhys LlwydSwyddog Ymgyrchu Deddf IaithBethan JenkinsSwyddog Cyfathrebu a Lobio Deddf IaithCatrin DafyddSw