Bil y Gymraeg yn 'syrthio'n ddarnau': Gweinidog yn cefnu ar ei gynigion ei hun

Alun Davies yn awgrymu gofyn i'w gyn bartner busnes gymryd lle Comisiynydd y Gymraeg 

 
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod cynigion Llywodraeth Cymru i newid ddeddfwriaeth iaith 'yn syrthio'n ddarnau', wedi i Weinidog awgrymu mewn dadl yn y Senedd nad yw'n cefnogi ei gynnig ei hun i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. 
 
Mewn dadl yn y Senedd neithiwr, dywedodd Alun Davies AC y byddai'n syniad i gael yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ymchwilio i gwynion am y Gymraeg yn lle Comisiynydd y Gymraeg. Nid yw'r opsiwn yn y papur gwyn a gyhoeddwyd ganddo fe ym mis Awst eleni.

Ym mis Tachwedd 2015, dyfarnodd yr Ombwdsmon Nick Bennett, a oedd yn arfer bod yn bartner yn yr un cwmni lobïo â'r Gweinidog, na ddylai Cyngor Cymuned Cynwyd weithredu'n uniaith Gymraeg. 
 
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n syfrdanol ac yn rhyfedd tu hwnt nad yw'r Gweinidog yn cefnogi ei gynigion ei hun - mae'r papur gwyn yn syrthio'n ddarnau. Mae'n smonach. Nid yw hyn yn syndod gan nad yw'r papur yn dal dwr, ei fod yn gwrthddweud ei hun a'i fod yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Rydyn ni fel Cymdeithas wedi dweud o'r dechrau mai yn y bin y mae lle'r Bil hwn, byddai'n gwneud mwy o synnwyr na gwneud polisi'n fympwyol fel hyn. 
 
"Dyw swyddfa Nick Bennett ddim hyd yn oed yn gweithredu'n fewnol yn uniaith Gymraeg ac mae e wedi atal cyrff eraill rhag gwneud. Roedd ei ddyfarniad am Gyngor Cymuned Cynwyd yn wrth-Gymraeg dyw e ddim yn gymwys i gymryd lle'r Comisiynydd. Mae'r sylwad hyn yn codi cwestiynau pellach am wir amcanion Alun Davies."