Comisiynydd Plant - torri cynllun iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y dylai'r Gweinidog Lesley Griffiths ymddiheuro am dorri cynllun iaith Llywodraeth Cymru wrth hysbysebu swydd y Comisiynydd Plant, yn sgil adroddiad damniol am ei hymddygiad. 

Wrth gyfeirio at adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ynghylch penodiad y Comisiynydd Plant, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad. Mae'n ddamniol ac yn codi cwestiynau difrifol am allu'r Gweinidog Lesley Griffiths i ymgymryd â'i swydd yn iawn. Dylai hi ymddiheuro am dorri'r gyfraith mewn ffordd mor ddifrifol. Hi, i fod, sydd gyda chyfrifoldeb dros gydraddoldebau o fewn y Llywodraeth; ond mae hi wedi diystyru anghenion y Gymraeg yn llwyr. Wedi'r cwbl, ymdrin â phobl ifanc yw hanfod rôl y Comisiynydd Plantrhaid i'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg fod yn hanfodol felly. Dylai fod datganiad gan y Llywodraeth y bydd sgiliau iaith yn hanfodol ar gyfer pob Comisiynydd a benodir o hyn ymlaen. 

"Mae record Lesley Griffiths wrth ymdrin â'r Gymraeg yn wael iawn. Hi oedd yn gyfrifol am ollwg y gofyniad statudol y dylai bod o leiaf un siaradwr Cymraeg aGomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae angen i Carwyn Jones edrych eto ar sut i brif-ffrydio'r iaith - mae dirfawr angen Cymreigio'r gwasanaeth sifil."