Creu cymhwyster Cymraeg 'DIY' o achos oedi'r Llywodraeth

Bum mlynedd ers adroddiad 'brys' i ddileu Cymraeg Ail Iaith – mudiad yn camu i'r adwy 

Bydd gwirfoddolwyr yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg eu hunain, wedi i Lywodraeth Cymru fethu cadw at amserlen adolygiad 'brys' i ddileu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2018. 

Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd yn dweud "Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith... Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.Argymhellodd yr adroddiad bod "elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith" a hynny "dros gyfnod o dair i bum mlynedd". 

Yn dilyn ymrwymiadau clir gan y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith fis diwethaf y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol. Fodd bynnag, does dim bwriad i addysgu'r cymhwyster newydd tan 2025 – sef 12 mlynedd ers adroddiad yr Athro Davies. 

Mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd, mae disgwyl i Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, gyhoeddi y bydd y mudiad iaith yn sefydlu gweithgor i lunio cymhwyster ei hunain o achos yr holl oedi. Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd: 

"Mae bellach yn bum mlynedd ers i adroddiad annibynnol yr Athro Sioned Davies ddatgan bod rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys. Roedd hi'n argymell dileu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2018 fan bellaf. Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn dal i gicio'r mater i'r glaswellt hir: dyw aros 12 mlynedd ddim yn newid cyfeiriad ar frys. Mae Cymdeithas yr Iaith fel mudiad felly yn bwriadu cyhoeddi cymhwyster enghreifftiol ein hunain eleni o'r cymhwyster newydd Cymraeg i Bawb 

"Er ein bod yn croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Addysg mewn cyfarfod diweddar y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl yn lle'r Cymraeg Ail Iaith presennol, mae aros tan 2025 yn gwbl annerbyniol. Mae gennym bryderon mawr hefyd am ymrwymiad y gweision sifil, sydd, er gwaethaf nifer o ymrwymiadau personol gan Weinidogion, yn dal heb ysgrifennu'r ymrwymiad yn yr un ddogfen polisi.    

"Er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth a disgwyliadau uwch o'n system addysg o ran caffael y Gymraeg, rydyn ni'n credu'n gryf y dylai'r Llywodraeth gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol eleni o'r cymhwyster Cymraeg cyfunol newydd. Byddai hynny'n caniatáu i rai siroedd ac ysgolion sy'n dewis ei dreialu ddechrau addysgu ar gyfer yr un cymhwyster newydd i bawb o fis Medi 2019 ymlaen. Wedi hynny, bydd modd cyflwyno'r cymhwyster i weddill y wlad dros y blynyddoedd dilynol." 

Yn y digwyddiad, bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi enwau aelodau cyntaf y gweithgor, sef Sel Williams o Brifysgol Bangor a'r tiwtor Cymraeg i Oedolion profiadol Steffan Webb.