Croesawu penderfyniad pwyllgor i beidio â chau ysgolion gwledig Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad pwyllgor craffu Cyngor Ynys Môn i beidio â chau tair ysgol wledig.   

Er bod ysgolion Bodffordd a Henblas (Llangristiolus) yn rhifau 1 a 9 ar restr ysgolion gwledig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog fel rhai i'w diogelu, honna'r Gymdeithas fod swyddogion y Cyngor wedi ceisio rhuthro penderfyniad i'w cau cyn bod y Côd newydd yn dod i rym yr hydref hwn.   

Heddiw, penderfynodd pwyllgor craffu'r Sir i atal unrhyw newidiadau nes bod y Côd newydd yn dod i rym. Gwnaiff pwyllgor gwaith y Cyngor benderfyniad terfynol ar dynged yr ysgolion ddydd Llun nesa (30ain Ebrill).   

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith:     

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor craffu am y penderfyniad. Rydyn ni'n erfyn ar bwyllgor gwaith y cyngor, sy'n cwrdd yr wythnos nesa, nid yn unig i gadarnhau'r penderfyniad hwn, ond hefyd i ddefnyddio'r amser ychwanegol i gynnal trafodaeth agored a didwyll efo'r gymuned ar y ffordd ymlaen. Mae cyfle rŵan i sicrhau bod ysgolion Cymraeg yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r holl bentrefi hynny, ac i barchu dymuniad rhieni lleol sydd mor frwd dros addysg eu plant."