Cyfarwyddwr newydd yr Ardd Genedlaethol – gofyn am amserlen i weithio yn Gymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i benodiad Huw Francis, cyfarwyddwr newydd i Ardd Fotaneg Genedlaethol, nad yw eto yn rhugl yn y Gymraeg, gan ofyn erbyn pryd y bydd yn gweithio drwy'r Gymraeg. 

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym ar ddeall fod Huw Francis yn medru rhywfaint o Gymraeg. Mae'n galonogol gweld ei fod wedi gweithio mewn menter â'r iaith Aeleg yn ganolog iddi yn Ynysoedd Heledd, felly gobeithio ei fod yn deall pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol a iaith gwaith. Byddwn yn ysgrifennu ato i ofyn am gyfarfod yn fuan i drafod ei weledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn yr Ardd

"Mae'n hanfodol bwysig bod cyfarwyddwr corff sydd i fod yn sefydliad cenedlaethol, mewn ardal ble mae'r Gymraeg yn fyw ond yn fregus fel iaith gymunedol, yn arddel ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ei waith. Hoffem wybod felly - pryd fydd y cyfarwyddwr yn rhugl ac yn gweithio yn Gymraeg?

"Fel pennaeth yr Ardd, byddai medru'r Gymraeg yn golygu y gallai bod arweiniad cryf o ran y Gymraeg yn yr Ardd. O gofio mai dim ond un o benaethiaid adrannau'r Ardd sy'n medru'r Gymraeg, mae dybryd angen gweithredu, a hynny cyn i'r Ardd ddod o dan Safonau'r Gymraeg ymhen rhai misoedd – gall arweiniad a gweledigaeth gyflawni mwy na rheoleiddio. Dyma her i Huw Francis felly - rydyn ni'n obeithiol y gall pethau newid er budd y Gymraeg yn yr Ardd."