Cyfle Cyngor Caerdydd i arwain y ffordd i'r filiwn gyda 10 ysgol Gymraeg newydd

Gallai diffyg ymroddiad cynghorau i ehangu addysg Gymraeg danseilio ymdrechion cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, dyna oedd rhybudd ymgyrchwyr mewn rali yng Nghaerdydd heddiw.   

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol newid eu cynlluniau addysg Gymraeg oherwydd nad oedden nhw'n ddigonol, a chynhaliodd y cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts adolygiad brys o'r sefyllfa ar eu rhan.  

Yn ôl ymchwil Cymdeithas yr Iaith, bydd rhaid i fwyafrif plant Cymru gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif.   

Dim ond 15% o blant saith mlwydd oed oedd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd y llynedd, o gymharu â tua 22% yng Nghymru gyfan. Yn ôl yr ymchwil, bydd rhaid i Gaerdydd ddyblu'r ddarpariaeth i 33% erbyn 2025, ac yna cynyddu i 43% erbyn 2030 a 71% erbyn 2040 er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd y targed cenedlaethol 

Yn siarad yn y rali – a fydd hefyd yn cael clywed gan y cerddor Gwenno Saunders  – meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae gan bob sir gyfraniad i'w wneud tuag at greu'r filiwn o siaradwyr fydd gyda ni, ond ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn rhwystro'r Llywodraeth rhag cyrraedd y nod. Mae cyfrifoldeb arbennig ar siroedd poblog fel Caerdydd sy'n tyfu'n gyflym lle mae canran isel iawn yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.  

"Mae'n gwbl glir: os nad oes cynnydd sylweddol yng Nghaerdydd, fydd dim modd cyrraedd y targed cenedlaetholMae agor deg ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerdydd erbyn 2022 yn gwbl ymarferol ac yn hanfodol os yw'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn mynd i gefnogi nod Llafur Cymru. Mae gyda nhw gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifri. 

Ychwanegodd Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC: 

"Un o'r ystyriaethau pwysig yw'r modd y gellir gweithredu'r continwwm sydd yn cael ei ddatblygu fel modd i ddisgyblion wneud cynnydd ar y daith o'r ddarpariaeth ail iaith bresennol i gaffael sgiliau iaith rhugl. Mae hyn yn allweddol o ran cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg un ar bymtheg oed. Mae hefyd yn bwysig talu sylw i dystiolaeth ymchwil yn ymwneud â ffactorau pwysig sydd wedi hyrwyddo twf blaenorol mewn addysg cyfrwng Gymraeg." 

Ychwanegodd rhiant lleol, Sandra Clubb, fuodd yn siarad yn y rali hefyd: 

"Mae'r achos dros addysg Gymraeg i bawb yn agos iawn at fy nghalon i. Fel rhywun sydd wedi dysgu'r Gymraeg yn fy ugeiniau, dw i'n gwybod pa mor bwysig ydy'r cyfle i ddysgu yn gynnar yn dy fywyd. A dw i'n falch bod fy mhlant i'n cael addysg Gymraeg. Ond mae 'na lawer gormod o rwystrau o hyd, diffyg llefydd Cymraeg ar enghraifft, a phobl yn gael eu gorfodi i deithio'n bellach i gyrraedd ysgol Gymraeg. Mae'n rhaid i ni i gyd gydweithio ac ymgyrchu dros ddarpariaeth gyflawn, sy'n golygu na fydd dim un plentyn bellach yng Nghymru yn tyfu lan yn colli mas ar y cyfle i fyw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyle addysg Gymraeg fod yn hawl i bawb."

Stori yn y wasg:

Cymru Fyw

Wales Online

Golwg 360

BBC Cymru