Cyhuddo cyngor o 'gamarwain y cyhoedd’ am ei wefan Gymraeg

Mae Cyngor Casnewydd wedi ei gyhuddo o 'gamarwain y cyhoedd' am eu bwriad i ‘weithio’ ar greu gwefan Gymraeg, wedi i ymgyrchwyr weld adroddiad mewnol lle dywedir nad
oes gwaith yn cael ei wneud arni ar hyn o bryd.

Ym mis Mehefin, lansiwyd gwefan y cyngor ar ei newydd wedd, ond heb gynnwys Cymraeg, er iddynt addo hynny yn ôl yn 2009. Hynny er i’r awdurdod lleol ddatgan
yn gyhoeddus ers nifer o flynyddoedd eu bod yn ‘gweithio’ arni.  Yn ôl y wefan
maent “wrthi’n gweithio tuag at ychwanegu rhagor o gynnwys yn Gymraeg at y wefan
hon ac mae gennym nifer o ddogfennau wedi'u cyhoeddi yn Gymraeg” .

Fodd bynnag, yn ôl adroddiad mewnol gan y Cyngor, ymddengys eu bod nhw wedi
camarwain swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac nad oes ganddynt fwriad hyd yn oed
ysytried cael gwefan Gymraeg nes iddynt gael adroddiad pellach yn 2014. Dywed yr
adroddiad: “Council officers have … [made] ... a number of informal commitments
for web development being made to the Welsh Language Commissioner. The Welsh
Language Commissioner has been told that the Council is moving towards the
development of Welsh language content on the web site. However, no budget has
been identified to take this work forward…”

“Decision: To receive a further report once the Content Management System
implementation has progressed to a point where the costs of providing bilingual
content are clear… The timing of a further report would depend on the
implementation of the new CMS … planned for completion in 2014...”

Mae Cell Casnewydd Cymdeithas yr Iaith wedi anfon cwyn at swyddfa Comisiynydd y
Gymraeg gan alw arni i gynnal ymchwiliad i mewn i’r mater. Dwedodd Swyddog Maes
y De, Euros ap Hywel: “Mae agwedd y cyngor yn warthus - dydyn nhw ddim yn gweithio ar y wefan o gwbl, ond dyna beth maen nhw’n dweud wrth y cyhoedd a’r
Comisiynydd. Tasai ‘na wobr am siarad yn flodeuog, byddan nhw’n cael marciau llawn. Mae’r adroddiad yn dweud nad ydynt hyd yn oed yn mynd i ystyried darparu cynnwys Cymraeg tan y flwyddyn nesaf. Maen nhw’n ceisio camarwain y cyhoedd.”

“Rydym wedi gweld gwelliant yn narpariaeth Gymraeg cyngorau eraill yn Ne
Ddwyrain Cymru, gyda Chyngor Torfaen yn lansio fersiwn dwyieithog o’u gwefan nhw
yn ddiweddar ar ôl ymgyrchu gan aelodau lleol y Gymdeithas. Felly mae’n amlwg yn
ymarferol bosibl iddynt ei wneud, pam na allai Cyngor Casnewydd ddilyn trywydd
tebyg? Ond oes hawl gan yr holl blant sy’n cael addysg Gymraeg dderbyn
gwybodaeth o’r Cyngor yn Gymraeg hefyd?”

Y stori yn y newyddion:

Cyhuddo Cyngor Casnewydd o “agwedd warthus” at y Gymraeg - Golwg 360

 

Newport council Council ‘misleads over Welsh site’ - south Wales Argus