Cynllun Iaith Undeb Rygbi Cymru: galw ar i'r Comisiynydd weithredu

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg fynnu bod Undeb Rygbi Cymru yn cadw at reoliadau iaith newydd, wedi i'r corff gyhoeddi polisi iaith y mae'r ymgyrchwyr iaith yn galw yn un 'gwan'. 
 
Mae lansiad y polisi yn dilyn pwyso gan gannoedd o gefnogwyr y mudiad iaith sydd wedi bod yn galw ar i'r Undeb wella'i ddarpariaeth Gymraeg. Mae modd i Gomisiynydd y Gymraeg, gyda chydweithrediad y Cynulliad, ychwanegu cyrff sy'n derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus at restr o gyrff sy'n gorfod cydymffurfio â hawliau iaith newydd o dan Fesur y Gymraeg 2011.
                 
Meddai Jamie Bevan, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae'r polisi hwn yn wan. Mae'n atgoffa rhywun o'r math o wyngalchu y'ch chi'n ei gael gan gwmnïau mawrion nad sy'n wirioneddol ymrwymedig i'r iaith. Does dim hyd yn oed amserlen ar gyfer cyflawni'r addewidion amwys sydd yn y cynllun. Mae modd i Gomisiynydd y Gymraeg weithio er mwyn dod â chyrff sydd wedi derbyn arian cyhoeddus o dan ddyletswydd cyfraith 2011; dylai hi ddefnyddio y pwerau hynny yn achos Undeb Rygbi Cymru. Byddai hynny'n sicrhau bod cyrsiau a hyfforddiant i bobl ifanc yn cael eu darparu yn Gymraeg, ynghyd â delio â nifer o ddiffygion eraill yr undeb."