Datgan pryder am ymlyniad Cyngor Sir Gâr at Erthygl 4

Mewn llythyr agored at aelodau Cabinet Cyngor Sir Gar, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i'r egwyddor o gyflwyno "Cyfarwyddyd Erthygl 4" yn y sir, ond yn datgan pryder na fydd y Cyngor yn mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon buan i ddatrys yr argyfwng tai yn ein cymunedau lleol.

Yn eu cyfarfod fore Llun 18 Medi, bydd Cabinet y Cyngor Sir yn trafod adroddiad cychwynnol gan swyddogion am gasglu tystiolaeth a fydd yn sail i gynnal ymgynghoriad rywbryd y flwyddyn nesaf ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn y sir.

Mae copi o destun y llythyr a ddanfonwyd heddiw trwy e-bost at y Cyngor Sir i'w weld isod

AT AELODAU CABINET CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Gyfeillion

Deallwn y bydd y Cabinet yn trafod yn eich cyfarfod fore Llun 18/9 adroddiad a fydd yn arwain at ymgynghoriad ar adroddiad i gyflwyno "Cyfarwyddyd Erthygl 4" yn y sir - sef sefydlu fod angen caniatâd cynllunio i newid defnydd tŷ o fod yn gartref parhaol i fod yn ail gartref neu'n llety gwyliau. Cred Cymdeithas yr Iaith fod y symudiad hwn yn un rhesymol sydd yn dilyn egwyddorion normal prosesau cynllunio o ran rheoli defnydd a sicrhau fod cyflenwad tai digonol a fforddiadwy i gymunedau lleol. Bob tro y troir tŷ ychwanegol yn ail gartref neu'n llety gwyliau y mae, o ddiffiniad, llai o stoc o dai i bobl y sir, ac y mae prisiau'n cael eu chwyddo.

Fel y dywed yr adroddiad ei hun, nid yw gweithredu'r gofyniad yn golygu na bydd byth caniatâd, ond bod gofyniad rhesymol i geisio caniatâd cynllunio i newid defnydd adeilad - sy'n egwyddor gynllunio gydnabyddedig e.e. os bydd ffermwr yn dangos fod trosi rhyw adeilad amaethyddol ar ei dir i fod yn llety hunan-gynhaliol er mwyn sicrhau atodiad incwm i'w deulu lleol, gellid rhoi caniatâd.

Tra'n cefnogi'n gryf yr egwyddor, y mae gan y Gymdeithas fodd bynnag 3 phryder -

1) Mae hwn yn fater brys oherwydd yr argyfwng dai yng nghymunedau Sir Gar. Mae amserlen y sir eisoes fwy na blwyddyn tu ôl i amserlen Sir Gwynedd, a phryderwn am bwyslais gor-bwyllog yr adroddiad ac amserlen rhy araf.

2) Pryderwn yn arbennig am y gosodiad hwn yn yr adroddiad - "In relation to an Article 4 Direction it, should demonstrate that there are exceptional circumstances that justify it."
Dyma awgrym o bosibl fod y swyddogion yn ystyried cyfyngu'r Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rai ardaloedd o'r sir yn unig, a fyddai, yn ei dro, ond yn gwthio'r broblem yn fwy at ardaloedd eraill. Gofynnwn i chwi egluro o'r cychwyn mai dilyn llwybr sir-gyfan (fel yng Ngwynedd) y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

3) Gofynnwn hefyd i'r Cyngor Sir alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i sefydlu mai darparu cartrefi i gymunedau lleol a rheoli'r farchnad agored yw pennaf ddiben polisi tai.
Tra bod ail gartrefi a gormodedd llety gwyliau mewn mannau'n gwaethygu'r broblem, y brif broblem yw na all pobl leol yn aml gystadlu ar y farchnad agored gyda phrynwyr gyfoethocach sydd am symud i'r ardal o bell, neu fel cymudwyr o ardaloedd trefol cyfagos.

Yn Gywir,

Ffred Ffransis,
ar ran Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith

Mae'r adroddiad fydd gerbron y Cabinet i'w weld yma, dan eitem 9