Dylai banciau orfod darparu gwasanaethau Cymraeg

 

Mae angen cynnwys banciau o dan ddeddfwriaeth iaith er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu yn Gymraeg, dyna ymateb ymgyrchwyr i adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg heddiw. 

Meddai Manon Elin, is-gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gyflwynodd lawer o dystiolaeth i adolygiad Comisiynydd y Gymraeg:        

"Does dim un banc yn darparu gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg, ac maen nhw'n cynnig llai o wasanaethau papur yn yr iaith ers yr argyfwng bancio. Rydyn ni wedi cyfathrebu sawl gwaith â nhw dros y blynyddoedd diwethaf i geisio newid y sefyllfa. Yn y bôn, mae angen gorfodaeth statudol arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau Cymraeg; gallai Llywodraeth Cymru estyn cwmpas Mesur y Gymraeg i wneud hynny.  

"Mae'r Mesur eisoes yn cynnwys cwmnïau fel y rhai ffôn ac ynni - er bod Comisiynydd y Gymraeg a'r Llywodraeth yn llusgo traed gyda gosod dyletswyddau arnyn nhw. Mae cynnwys banciau dan y Mesur yn gam naturiol felly: mae bancio yn wasanaeth hanfodol mae rhaid i bob un ohonon ni ei ddefnyddio, felly mae'n fater o gyfiawnder ei fod ar gael yn Gymraeg. Gosod dyletswyddau cyfreithiol ar y banciau yw'r unig ateb, ac mae hynny'n hollol bosibl. Mater syml o ewyllys gwleidyddol yw e."