Galw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am ail-enwi'r Cynulliad gyda'r enw uniaith Gymraeg 'Senedd' cyn pleidlais ym mae Caerdydd wythnos yma. 

Mae cynnig sy'n cael ei drafod ddydd Mawrth yn cynnig ystyried enw newydd i'r ddeddfwrfa genedlaethol, ac mae nifer o wleidyddion wedi dadlau dros fabwysiadu'r enw 'Parliament' yn lle Cynulliad.

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae'r gair Senedd yn un mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a'i gefnogi. Mae'r enw eisoes yn cael ei ddefnyddio'n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg. Byddai'n gam ymlaen o ran normaleiddio'r Gymraeg hefyd. Wrth reswm, mae perygl mewn defnydd tocenistaidd o'r Gymraeg yn unig; dylai hyn fod yn rhan o becyn o normaleiddio'r Gymraeg fel prif iaith y Senedd a'r wlad yn gyffredinol. Rydyn ni'n cwrdd â'r Llywydd newydd yn fuan ac ry'n ni'n edrych ymlaen at wella defnydd o'r Gymraeg yn ein corff democrataidd cenedlaethol.”