Galw am newid agwedd - Cyngor Sir Benfro

Heddiw (dydd Llun 3ydd o Chwefror) mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi cwrdd gyda'r Cyng. Huw George i gyflwyno llythyr at sylw prif swyddogion Cyngor Penfro yn galw arnynt i gydnabod y Gymraeg. Daw hyn wedi i hysbyseb swydd am weithiwr cymdeithasol i bobl ifanc gyda'r Cyngor ymddangos yn uniaith Saesneg a gyda sylwadau 'sarhaus' tuag at y Gymraeg.

Meddai Meurig Jones, un o'r ymgyrchwyr:

"Ar ôl cwrdd gyda Huw George roedden ni i gyd yn teimlo o hyd nad oedd consensws am y Gymraeg o fewn y Cyngor Sir. Yn fwy na hynny does dim strategaeth glir na gweledigaeth o ran y Gymraeg - nac unrhyw fwriad i flaenoriaethu'r Gymraeg yn ôl pob golwg.

"Briwsion yn unig sydd gan y Cyngor i'w cynnig i ni o hyd fel gwasanaeth Gymraeg - roedd arwyddion uniaith 'keep clear' ar y drws ar y ffordd mewn, dydy holl staff eu prif dderbynfa ddim yn siarad Cymraeg ac mae'r Gymraeg ar arwyddion yn wallus. Llond llaw o enghreifftiau yw'r rhain. Efallai mai pethau bach yw rhai o'r rhain ond maen nhw'n dangos duffyg ymrwymiad clir."

Yn y llythyr at sylw Prif Weithredwr y Cyngor, Bryn Parry-Jones; Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams; a llefarydd y Cyngor ar y Gymraeg, Huw George, mae'r Gymdeithas yn gofyn bod:

• Pob swydd wag o fewn y Cyngor yn cael ei hysbysebu'n ddwyieithog, a bod disgrifiadau swydd ar gael yn Gymraeg
• Cyd-destun yn cael ei roi am y Gymraeg mewn disgrifiadau swydd ac mewn hyfforddiant i staff newydd;
• Bod swyddi gwag o hyn ymlaen yn cael eu hysbysebu gyda gofyniad bod y Gymraeg yn hanfodol, gan ddechrau yn syth gyda swyddi sy'n dod i gysylltiad gyda'r cyhoedd.
• Bod pob cefnogaeth ac anogaeth i staff dderbyn hyfforddiant neu wersi Cymraeg at ddefnydd gwaith a b od hynny ar gael yn ystod oriau gwaith

Doedd Cymdeithas yr Iaith ddim yn teimlo bod ymateb y Cyngor yn awgrymu eu bod am fynd i'r afael gyda'r materion hyn yn llawn.

Ychwanegodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:
"Er mai'r hysbyseb yma sydd wedi dod a'r peth i'r amlwg, mae angen newid agwedd y Cyngor at y Gymraeg yn llwyr. Rydyn ni am weld ymrwymiad gan y cyngor sir eu bod am symud tuag at weithio yn Gymraeg.

"Mae cyfle gan y Cyngor Sir i ddangos eu bod o ddifrif dros y Gymraeg drwy weithredu'n syth ar y pedwar peth sydd yn ein llythyr."

Pwyswch yma i ddanfon neges at y Cyngor Sir i alw arnyn nhw i wneud mwy dros y Gymraeg.

Testun y llythyr cyfan:

At sylw Bryn Parry-Jones, Cyng. Jamie Adams a'r Cyng. Huw George:

Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Benfro yn galw ar Gyngor Sir Benfro i ail-hysbysebu swydd wag ar gyfer gweithiwr cymdeithasol i bobl ifanc gan nodi bod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Roedd y disgrifiad swydd gwreiddiol yn awgrymu fod y Cyngor yn gweld y Gymraeg fel iaith ar gyfer rhai pobl mewn ardaloedd penodol yn unig ac yn achosi pryder na fyddai rhai plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth a gwasanaeth gofal yn Gymraeg am eu bod yn byw mewn ardal nad yw'n cael ei ystyried yn un ble mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan y mwyafrif.

Ers i;'r disgrifiad swydd gael sylw yn y wasg mae'r hysbyseb uniaith Saesneg wedi ei ddiweddaru a does dim cyfeiriad o gwbl at y Gymraeg yn rhan ohono. Rydyn ni'n cael ar ddeall y bydd yr hysbyseb yn aros felly nes bod geiriad newydd wedi ei greu – ac nad oes dyddiad pendant ar gyfer hynny.

Mae'r hysbyseb yn rhan o o wefan sydd yn hyrwyddo gwaith i weithwyr cymdeithasol yn Sir Benfro ac rydym o'r farn y dylai'r Cyngor fod yn cyfleu yn glir fod y Gymraeg yn rhan o fywyd yn Sir Benfro. Er mwyn gwireddu hyn ac i ddangos fod y Cyngor yn cymeryd y Gymraeg o ddifrif - yn ei chydnabod fel iaith ar gyfer holl drigolion y sir yn hytrach na mater cwrteisi yn unig, ac i osgoi camgymeriadau tebyg i'r hyn a welwyd rydym yn gofyn hefyd bod:

  • Pob swydd wag o fewn y Cyngor yn cael ei hysbysebu'n ddwyieithog, a bod disgrifiadau swydd ar gael yn Gymraeg

  • Cyd-destun yn cael ei roi am y Gymraeg mewn disgrifiadau swydd ac mewn hyfforddiant i staff newydd;

  • Bod swyddi gwag o hyn ymlaen yn cael eu hysbysebu gyda gofyniad bod y Gymraeg yn hanfodol, gan ddechrau yn syth gyda swyddi sy'n dod i gysylltiad gyda'r cyhoedd.

  • Bod pob cefnogaeth ac anogaeth i staff dderbyn hyfforddiant neu wersi Cymraeg at ddefnydd gwaith ab od hynny ar gael yn ystod oriau gwaith