Gwaharddiad Lidl ar siarad Cymraeg yn 'anghyfreithlon'

Mewn ymateb i'r newyddion bod yr archfarchnad Lidl yn gwahardd staff rhag siarad Cymraeg o dan rai amgylchiadau, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r polisi hwn yn warthus, ac yn anghyfreithlon. Mae ein swyddogion wedi cysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gyhoeddi y bydd ymchwiliad i mewn i'r cwmni yn syth. Ers i Fesur y Gymraeg basio pedair mlynedd yn ol mae wedi bod yn anghyfreithlon i atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid sy'n dymuno siarad Cymraeg."