Gweledigaeth i’r Gymraeg yn y brifddinas - lansiad Siarter Caerdydd

Mae mudiad iaith wedi annog Cyngor Caerdydd i wreiddio’r Gymraeg yng nghanol y ddinas wrth lansio Siarter Caerdydd yn Ffair Tafwyl heddiw.

Yn y ddogfen polisi uchelgeisiol mae cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwneud degau o awgrymiadau ynglŷn â sut all y cyngor a chyrff eraill wella sefyllfa’r Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau yn y ddinas. Awgrymai’r Gymdeithas y dylai’r cyngor gael gwared ar y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol ac, yn lle, fabwysiadu polisi cynllunio sy’n ystyried y Gymraeg yn sgil deddfwriaeth newydd ym maes cynllunio a basiwyd yn y Cynulliad yn ddiweddar.

Mae’r mudiad wedi codi pryderon am ddatblygiadau newydd yn y ddinas sydd yn anwybyddu’r Gymraeg, megis yr arwydd uniaith Saesneg yng ngorsaf trên Heol y Frenhines a thoriadau i lyfrgelloedd a gweithgareddau i bobl ifanc. Gofynion eraill sydd yn britho’r ddogfen yw’r cynnig y dylai gael o leiaf un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym mhob ward o Gaerdydd - ac ysgol uwchradd Gymraeg newydd erbyn 2020. Mae’r ddogfen polisi hefyd yn codi pryderon am yr effaith caiff llymder a thoriadau ar yr iaith Gymraeg a grwpiau amrywiol yng Nghaerdydd yn gyffredinol.

Wrth sôn am ddrafft ymgynghorol Siarter Caerdydd a gafodd ei lansio yn Nhafwyl, meddai Carl Morris, Cadeirydd Cell Caerdydd, y gangen leol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r ddogfen yn un heriol ond yn angenrheidiol os mae’r ddinas am fod yn wirioneddol Gymraeg. Nid oes modd i ni barhau fel petai’r Gymraeg yn rhywbeth ychwanegol, rhywbeth i bawb ydyw. Rydym yn ffyddiog bod y Cynghorydd Phil Bale, a’r cyngor yn gyffredinol, yn awyddus i wella sefyllfa’r Gymraeg.

“Mae’r cyngor eisoes wedi datgan eu bod nhw eisiau datblygu ‘Caerdydd gwbl ddwyieithog’, ond mae nifer o wendidau yn eu polisïau a’r ffordd maen nhw’n gweithredu, yn enwedig yn y maes cynllunio. Mae llawer o wersi i sefydliadau eraill y ddinas, megis ein prifysgolion, yn y ddogfen hefyd. Gobeithiwn bydd Siarter Caerdydd yn fan cychwyn er mwyn ein llywio tuag at y Gymraeg fod yn rhan ystyrlon o fywyd pob dydd prifddinas Cymru.”