Siarter Caerdydd

Drafft

Gorffennaf 2015

[Agor y ddogfen fel PDF]

Trwyddedir y ddogfen hon yn ôl termau’r drwydded ‘Creative Commons Attribution–Share Alike 4.0 International

Cyflwyniad i’r ddogfen ddrafft

Caerdydd yw prifddinas Cymru, gwlad y mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol ynddi.1 Beth felly yw rôl a chyfrifoldebau’r ddinas wrth sicrhau ffyniant y Gymraeg?

Mae Cyngor Caerdydd wedi cymryd sawl cam cadarnhaol yn ddiweddar, gan gynnwys sefydlu uned ‘Caerdydd Ddwyieithog’ sydd â’r gwaith o ddatblygu ‘Caerdydd gwbl ddwyieithog’.2 Ond beth yn hollol yw ystyr hynny? Os yw’n golygu unrhyw beth, bydd angen newidiadau radical i sicrhau llawer mwy o gefnogaeth i’r Gymraeg. Bydd yn rhaid i’r cyngor weithredu yn glir ac yn gadarn.

Mae’r weledigaeth yn y ddogfen hon yn un radical, uchelgeisiol a hir-dymor. Bydd Siarter Caerdydd yn gyrru ac yn llywio ymgyrchoedd Cell Caerdydd — grŵp o bobl sydd yn gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg, hawliau, rhyddid a chyfiawnder yn y ddinas fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu’r mentrau cyfrwng Cymraeg newydd y mae’r cyngor wedi chwarae rhan amlwg ynddynt, gan gynnwys Tafwyl a’r cynllun i sefydlu Canolfan Gymraeg yn Yr Hen Lyfrgell. Ond rydym hefyd yn pwysleisio bod angen i’r Gymraeg ffynnu drwy gydol y flwyddyn a ledled y ddinas i gyd. Ni ddylid gorbwysleisio un wythnos o ddathlu neu un lleoliad daearyddol. Mae angen cynyddu cyfleoedd i bawb weld, clywed a siarad y Gymraeg yn y ddinas o ddydd i ddydd.

Mae angen tegwch i’r Gymraeg a chymunedau ffyniannus ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys y brifddinas — ond nid ar draul unrhyw ardal arall o Gymru. Yn hytrach mae lle i rannu arfer da gyda chynghorau eraill yng Nghymru ac i Gyngor Caerdydd osod esiampl i sefydliadau eraill trwy bolisïau blaenllaw a gweithredu penderfynol.

Nid yw tegwch i’r iaith yn gyflawn heb degwch i holl bobloedd a chymunedau amrywiol Caerdydd — o ran dosbarth, rhyw, hil, rhywioldeb, abledd, ac yn y blaen.

Mae hefyd angen gosod y Gymraeg fel blaenoriaeth amlwg yn ystod unrhyw broses o uno cynghorau yn y dyfodol. Bydd hynny’n gyfle i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg ac nid yn esgus i’w gwanhau.

Cymryd rhan

Mae Cell Caerdydd yn grŵp o bobl sydd yn gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg, hawliau, rhyddid a chyfiawnder yn y ddinas — fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros gyfiawnder.

I ymuno â’r chwyldro cysylltwch â Heledd Williams yn swyddfa’r Gymdeithas drwy alw 029 2048 6469 neu e-bostio de@cymdeithas.org

Mae cyfarfod Cell Caerdydd bob mis — am fanylion o’r cyfarfod nesaf gweler cymdeithas.cymru/rhanbarth/morgannwg-gwent

Gwrthwynebu llymder

Rydym yn ysgrifennu’r ddogfen hon mewn cyfnod pan fo llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, am resymau ideolegol neo-ryddfrydol yn hytrach nag o anghenraid, yn cyflwyno toriadau niferus i wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn pryderu bod y gweinyddiaethau yng Nghaerdydd wedi mabwysiadu ideoleg ddifäol sydd wedi ei llunio gan lywodraeth San Steffan.

Er enghraifft, nid yw’n dderbyniol i dorri gwasanaethau cyhoeddus sy’n cefnogi aelodau mwyaf bregus y gymdeithas. Nid yw’n dderbyniol chwaith i dorri gwasanaethau fel llyfrgelloedd ac annog gwirfoddolwyr i wneud gwaith gweithwyr proffesiynol.

  1. Dylai Cyngor Caerdydd ddatgan ei wrthwynebiad i bolisïau llymder sy’n torri buddsoddiad mewn sawl maes, o les i addysg, o iechyd i ddiwylliant, oherwydd hapchwarae y bancwyr.

  2. Ar sail y datganiad hwnnw bydd modd i’r cyngor ddechrau llunio polisïau er lles pobl a chymunedau. Bydd rhagor o ofynion yn yr adrannau sydd i ddod.

Cynllunio

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn dod â sawl bygythiad i gymunedau yng Nghaerdydd a’r de, o ran yr amgylchedd, trafnidiaeth a’r iaith. Mae bwriad i godi miloedd o aneddiadau newydd, tra bo tai gwag i’r gogledd i Gaerdydd a nifer sylweddol o fflatiau moethus gwag yn y Bae. Datblygwyr nid cymunedau sydd yn debygol o elwa o gynllun o’r fath.3

  1. Dylai Cyngor Caerdydd ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol yn seiliedig ar anghenion lleol a thyfiant organig — a gwahodd mewnbwn gan grwpiau cymunedol a thrigolion eraill mewn ffordd ddemocrataidd.

  2. Wrth i dai newydd a ddatblygiadau newydd cael eu cynllunio yn y dyfodol, dylid sicrhau bod gwasanaethau newydd ar gael yn y Gymraeg. Dylid rhagdybio pob ysgol feithrin, ysgol gynradd ac ysgol uwchradd fod yn un cyfrwng Cymraeg.

  3. Dylai pob cynllun am anheddau newydd gael enw Cymraeg yn unol â hanes yr ardal leol.

  4. Dylid darparu pecyn gwybodaeth i bobl sydd yn symud i fyw i dai newydd fel eu bod yn gallu dysgu am y diwylliant lleol.

Addysg: ysgolion

Mae gan Gyngor Caerdydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sydd yn cynnwys rhai cynlluniau a pholisïau blaengar. Fodd bynnag, mae iddi ei diffygion. Un diffyg amlwg yw nad yw’r cyngor yn ymrwymo i weithio i gynyddu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Rhaid cydnabod bod y galw presennol am addysg cyfrwng Cymraeg yn is nag y gallai fod oherwydd nad oes darpariaeth ddigonol o ysgolion — er enghraifft, mewn rhai ardaloedd yn ne’r ddinas mae’r ysgol dalgylch leol hyd at pedair milltir i ffwrdd, tra bo hanner dwsin neu fwy o ysgolion cyfrwng Saesneg yn fwy cyfleus.

At hynny, dylid cydnabod bod tri math o addysg cyfrwng Saesneg ar gael i bawb yn y ddinas: cymunedol, Anglicanaidd a Chatholig, tra bo pob ysgol Gymraeg yn y sector cymunedol.

Canlyniad ymarferol hyn yw bod rhieni/gwarchodwyr yn cael dewis o dair ysgol dalgylch cyfrwng Saesneg, a dim ond un cyfrwng Cymraeg. Mae dalgylchoedd ysgolion Cymraeg yn aml yn fwy o lawer na dalgylchoedd ysgolion Saesneg, a gall hynny olygu ei bod yn anos i rai teuluoedd ddewis addysg cyfrwng Cymraeg nag addysg cyfrwng Saesneg.

Gallwn felly ar y cyngor i gymryd y camau canlynol:

  1. Ymrwymo i weithio i gynyddu’r galw am addysg Gymraeg gan fod y galw presennol wedi ei gyfyngu gan ddiffyg darpariaeth.

  2. Mesur a monitro’r galw hwnnw yn gyson.

  3. Hybu mynediad at addysg Gymraeg drwy ddarparu gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg i holl rieni/gwarchodwyr pan fyddant yn dewis ysgolion meithrin a chynradd, fel y gwneir mewn siroedd eraill. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn gwybodaeth bresennol yn annigonol.

  4. Sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei normaleiddio yn nogfennaeth a pholisïau’r sir (yn fewnol ac yn allanol), drwy ddefnyddio termau addas bob tro, er enghraifft ‘ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg’ (yn hytrach nag ‘ysgol gynradd Gymraeg’) ac ‘ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg’ (yn hytrach nag ‘ysgol gynradd gymunedol’).

  5. Ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn yn y sir:

    • yn byw mewn ward ac ynddo ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac/neu

    • yn byw o fewn un filltir i ysgol o’r fath.

  6. Agor pedwaredd ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Cymraeg erbyn 2020 a sicrhau bod yr ysgolion presennol yn ddigonol o ran maint i ymateb i’r galw yn eu dalgylchoedd.

  7. Rhoi adnoddau ychwanegol i drafnidiaeth i addysg gynradd cyfrwng Gymraeg fel nad yw teuluoedd sydd yn byw ar drothwy’r ddwy filltir (ar gyfer trafnidiaeth statudol) yn peidio â dewis addysg Gymraeg am resymau ariannol. Dylid gweithredu’r polisi hwn yn y lle cyntaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

  8. Symud pob ysgol, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyd un continwwm dysgu, fel bod pob ysgol yn darparu mwy a mwy pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a fyddai’n raddol yn disodli’r gyfundrefn bresennol o’i dysgu fel ail iaith.

  9. Gweithredu ar Addysg Gymraeg i Bawb er mwyn sicrhau bod pobl disgybl yn gadael ysgol gyda rhuglder yn Gymraeg. Nid oes angen aros am arweiniad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru er mwyn dechrau.4

  10. Sicrhau bod y Gymraeg fel pwnc Safon Uwch ar gael ym mhob ysgol uwchradd yn y sir.

  11. Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio i ddarpariaeth Dechrau’n Deg.

  12. Sicrhau fod pob ysgol sy’n agor fel rhan o ddatblygiad tai newydd yn gyfrwng Gymraeg. Nid oes modd gwireddu’r amcan o ddinas ddwyieithog lle bod mwyafrif yr ysgolion newydd yn rhai cyfrwng Saesneg.

Addysg: addysg bellach

Mae toriadau’r llywodraeth yn cael effaith arbennig o galed ar addysg bellach, sef yng Nghaerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r coleg hwn yn derbyn nifer uchel o fyfyrwyr sydd wedi derbyn addysg Gymraeg.

  1. Dylid sicrhau bod dilyniant ieithyddol yn elfen sylfaenol o gynllunio darpariaeth y coleg.

  2. Dylid sicrhau bod pob myfyrwyr sy’n dod o addysg Gymraeg yn cael cyfle i ddilyn rhan o’u cwrs addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg.

  3. Dylid cefnogi pob aelod o’r staff i ddatblygu sgiliau iaith fel bod modd i nifer ychwanegol ddysgu neu gyfrannu at gynorthwyo drwy gyfrwng y Gymraeg.

  4. Cynyddu’r gefnogaeth i’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn y sefydliad.

Addysg: prifysgolion

Mae prifysgolion Caerdydd yn rhan annatod o wead y cymunedau y’u lleolir ynddynt ac o’r ddinas ehangach. Mae’n hanfodol felly eu bod yn cyfrannu i’w cymunedau lleol, i Gaerdydd ac i Gymru drwy gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn y ddinas (bod â phresenoldeb mewn digwyddiadau Cymraeg eu hiaith megis Tafwyl a rhoi cefnogaeth ariannol iddynt, cefnogi datblygiadau megis yr Hen Lyfrgell, grwpiau cymunedol Cymraeg, ac yn y blaen).

Mae prifysgolion Caerdydd yn rhai mawrion; maent yn aml yn gweithredu o gyfuniad o safleoedd a champysau wedi eu gwasgaru ledled y ddinas. O’r herwydd, mae’n rhaid cynllunio’n ofalus i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth.

  1. Dylai pob prifysgol yn y ddinas fod â dirprwy is-ganghellor ac/neu uwch-swyddog penodol yng ngofal y Gymraeg, er mwyn cynnig arweiniad o frig y sefydliad:

    • Fel man cychwyn, dylid adnabod uwch-swyddogion sydd eisoes yn gymwys i ysgwyddo cyfrifoldeb dros y Gymraeg at eu cyfrifoldebau presennol ar unwaith (er enghraifft, os ydynt yng ngofal ‘Profiad y Myfyriwr’, gallent gymryd cyfrifoldeb dros addysg Gymraeg neu dylai’r prif swyddog gweithredol gymryd cyfrifoldeb dros weithredu’r safonau). Dylai’r unigolion hyn ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg o fewn cyfnod penodol, os nad ydynt yn meddu ar y sgiliau ieithyddol angenrheidiol eisoes.

    • Yn y tymor hir, dylid creu dirprwy is-ganghellorion neilltuol â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a diwylliant Cymru (fel sydd ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth eisoes) ym mhrifysgolion Caerdydd. Byddai hyn yn ei dro yn gosod y Gymraeg wrth galon pob un o brifysgolion y brifddinas.

  2. Dylid sefydlu canolfannau Cymraeg mewn mannau canolog ym mhob un o brifysgolion Caerdydd. Byddai’r canolfannau hyn yn dod â’r holl staff sy’n gweithio tuag at yr un amcanion o safbwynt y Gymraeg o dan yr un to, gan greu canolbwynt i’r iaith ffynnu ar gampysau ein prifysgolion mawrion. Dylid lleoli staff cydymffurfiaeth iaith, canghennau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyfieithwyr, swyddogion marchnata myfyrwyr Cymraeg ac Adrannau Cymraeg gyda’i gilydd. Mae’r sefyllfa bresennol lle mae’r adrannau a’r unigolion hyn wedi eu gwasgaru trwy ein prifysgolion yn hurt ac yn wrthgynhyrchiol.

    Dyma fodel tebyg i’r hyn sydd yn digwydd eisoes ym mhrifysgolion Bangor (Canolfan Bedwyr), Abertawe (Academi Hywel Teifi) ac Aberystwyth (Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg).

  3. Lle bo darpariaeth Gymraeg ar gael dylid cofrestru myfyrwyr Cymraeg yn ddiofyn ar fodiwlau Cymraeg.

  4. Dylid parhau i sicrhau y gall myfyrwyr gwblhau asesiadau yn Gymraeg, a hynny ar fodiwlau nad ydynt o reidrwydd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r hyder na fyddent yn wynebu anfantais.

  5. Dylid sicrhau bod rhyngwynebau Cymraeg a meddalwedd Gymraeg (Cysill, Blackboard, ac yn y blaen) o’r un safon â’r fersiynau Saesneg ar beiriannau’r prifysgolion yn ddiofyn.

  6. Gwneud gwasanaethau Cymraeg yn hygyrch drwy ragosod gohebiaeth siaradwyr Cymraeg (pan fo’n wyddys bod myfyriwr yn siarad Cymraeg) i’r Gymraeg, oni newidir yr iaith.

  7. Sicrhau gwasanaethau cefnogi (gyrfaoedd, cwnsela a gwasanaethau anabledd, er enghraifft) drwy gyfrwng y Gymraeg.

  8. Dylai pob un o brifysgolion Caerdydd fod â neuadd breswyl wedi ei neilltuo ar gyfer siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg. Gydag ymgeiswyr sy’n gosod y brifysgol fel dewis cyntaf neu ail ddewis, dylid gwarantu llety cyfrwng Cymraeg iddynt.

  9. Dylai pob prifysgol yn y ddinas sicrhau cymal neilltuol ynghylch y Gymraeg a dwyieithrwydd yn y ‘Cytundeb Partneriaeth’ a wneir rhwng y brifysgol ac undeb y myfyrwyr pan fo’r brifysgol yn rhoi grant blynyddol i’r undeb.

  10. Dylai pob undeb myfyrwyr fod â Pholisi Iaith/Dwyieithrwydd cadarn fel paratoad ar gyfer cydymffurfio â safonau o dan Atodlen 5, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff sy’n derbyn dros £400,000 o arian cyhoeddus) a dylent fabwysiadu a gwireddu Siarter yr Iaith Gymraeg a baratowyd gan UCMC i’r un diben.

  11. Galwn ar undebau myfyrwyr prifysgolion Caerdydd i sefydlu swyddogion etholedig llawn-amser dros y Gymraeg, gan edrych a oes posibilrwydd i’r undebau ddod ynghyd i gyfrannu at sefydlu undeb myfyrwyr Cymraeg ac arni lywydd llawn-amser.

  12. Dylai hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith fod yn rhan hanfodol o fodiwlau ymrestru’r prifysgolion (iechyd a diogelwch, tân, ac yn y blaen), a gwblheir gan bawb ar-lein ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf cyn cael dechrau yn y brifysgol.

  13. Dylid darparu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a chodi ymwybyddiaeth o’u bodolaeth.

  14. Dylid pwysleisio bod gallu gweithio’n Gymraeg yn y Gymru sydd ohoni yn sgil bwysig ac annog myfyrwyr i ddilyn gwersi gloywi iaith y Coleg Cymraeg ac yna sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith y coleg i ennill cymhwyster ychwanegol.

  15. Dylai sicrhau bod pob aelod o staff rheng flaen â rhyw sgiliau yn y Gymraeg a dylid datblygu sgiliau ieithyddol y gweithlu gan ryddhau staff o’u gwaith i ddysgu Cymraeg.

  16. Yn wythnos y glas, dylai’r pecyn croeso gynnwys llyfryn ar y Gymraeg i bob myfyriwr.

Addysg gydol oes

Mae addysg gymunedol yn allweddol i ddyfodol Caerdydd a’i phobl.

Yn ogystal â Chymraeg i oedolion mae angen amrywiaeth eang a chyfoes o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg o feysydd celfyddydol i sgiliau technolegol.

Mae angen gweithio i sicrhau bod addysg gymunedol ar gael ar gost fforddiadwy i holl drigolion y sir mewn lleoliadau addas a chyfleus.

  1. Mae angen cydweithio gyda’r endid newydd Cymraeg i Oedolion er mwyn sicrhau bod gwersi Cymraeg i Oedolion ar gael ar gost fforddiadwy i holl drigolion y sir mewn lleoliadau addas a chyfleus.

  2. Mae angen datblygu rhwydwaith o ganolfannau Cymraeg trwy’r sir i weithredu fel hybiau hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg gan oedolion, disgyblion ysgol ac ymwelwyr. Dylai’r canolfannau weithio gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Dylid manteisio ar gymorth presennol Llywodraeth Cymru i wneud hyn er mwyn sicrhau nifer o ganolfannau o fewn cyrraedd i bawb a phob rhan o’r sir.

  3. Os ydy llywodraethau Prydain neu Gymru yn cynnig gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim o fewn y sir mae angen pwyso ar y llywodraethau hynny, a’r darparwyr sy’n gweithio gyda nhw, i gynnig gwersi Cymraeg cyfatebol. Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn yr amodau a’r cytundebau.

  4. Mae angen gweithio i sicrhau bod addysg gymunedol eang a chyfoes ar gael am ddim neu ar gost fforddiadwy i holl drigolion y sir ar-lein trwy sicrhau darpariaeth rhagorol o wasanaethau band eang trwy’r sir.

  5. Mae angen sicrhau fod gan holl drigolion y sir sy’n dilyn cyrsiau cymunedol fynediad i galedwedd a meddalwedd Cymraeg a Saesneg i fanteisio ar y ddarpariaeth ragorol o wasanaethau band eang trwy’r sir.

  6. Mae angen cydweithio gyda chyrff sy’n darparu gwersi Cymraeg ar-lein, megis yr endid newydd Cymraeg i Oedolion, Prifysgolion a Cholegau Cymru a chwmnïau fel Say Something in Welsh i sicrhau fod geiriaduron, cymorth sillafu a chyngor gramadegol yn ogystal â gwersi Cymraeg i Oedolion ar gael am ddim i holl drigolion y sir.

  7. Mae angen gweithio i sicrhau fod gwybodaeth am gyfleusterau’r sir yn ogystal a’i hanes a hanes ei phobl ar gael ar y we yn Gymraeg yn bennaf trwy Wicipedia.5

  8. Dylid marchnata’r cyfleon hyn i gyd fel bod trigolion y ddinas yn ymwybodol bod y cyngor am iddyn nhw ddysgu’r Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg ac ymfalchio eu bod yn byw ac yn gweithio ym mhrifddinas Cymru sy’n cael ei chefnogi gan gyngor gweithredol dwyieithog.

Llyfrgelloedd

  1. Dylai Cyngor Caerdydd gyflwyno cynllun gweithredu sy’n amlinellu sut mae’r cyngor yn mynd i sicrhau darpariaeth gyflawn o wasanaethau llyfrgelloedd yn y ddinas, fel mater o frys. Dylai hyn gynnwys gweledigaeth hir-dymor ar gyfer dyfodol ein llyfrgelloedd fydd yn rhoi terfyn ar bryderon am gyllid i’r llyfrgelloedd a safon a chyflawnder y gwasanaeth fydd yn cael ei darparu.

  2. Dylai pob un llyfrgell yng Nghaerdydd gael ei diogelu fel llyfrgell (ac nid yn unig ‘hyb’) fydd yn darparu gwasanaeth cyflawn chwe dydd yr wythnos.

  3. Dylai’r Llyfrgell Ganolog barhau fel llyfrgell gyflawn sy’n darparu gwasanaeth safon uchel, am ddim, yng nghanol ein dinas. Dylid ei ail-agor ar ddydd Mercher, sicrhau rhaglen ar gyfer cyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen ar yr adeilad, a diystyrru unrhyw gynlluniau i gynnwys caffi neu swyddfeydd yn yr adeilad fydd yn lleihau’r gofod sydd ar gael ar gyfer llyfrau ac ardaloedd cyhoeddus.

  4. Dylid parchu ac adeiladu ar y gwaith da sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i greu casgliad Cymraeg gwych yn y Llyfrgell Ganolog, trwy gadw’r casgliad yng Nghaerdydd (a pheidio â’i werthu), symud mwy o’r llyfrau yn ôl mewn i’r brif lyfrgell ac allan o’r storfa, rhoi mwy o le i’r casgliad Cymraeg yn adeilad y llyfrgell, parhau i ychwanegu at y casgliad a sicrhau fod swydd y llyfrgellydd Cymraeg yn un fydd yn cael ei ariannu a’i gwerthfawrogi yn y tymor hir. Mae’r swydd llyfrgellydd yn arbenigedd, nid oes modd dibynnu ar wirfoddolwyr i wneud y gwaith.

  5. Dylai holl wasanaethau’r llyfrgelloedd fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

  6. Dylid hybu ein llyfrgelloedd fel canolbwyntiau i’r iaith, er enghraifft trwy ddarpariaeth dda o ddeunyddiau dysgu Cymraeg, a hyrwyddo gwersi Cymraeg i Oedolion a chyfleoedd i ymarfer a chymdeithasu yn Gymraeg.

Busnes

Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i hwyluso Caerdydd Ddwyieithog ac mae rhan i’w chwarae gan fusnesau.

  1. Dylai Cyngor Caerdydd ail-ystyried ei brosesau cynllunio, trwyddedu a chaffael er mwyn ffafrio siopau annibynnol lleol dros gadwynau.

  2. Dylai Cyngor Caerdydd comisiynu pecyn croeso i fusnesau newydd i gynnwys gwybodaeth am fanteision y Gymraeg a chynnal gwersi Cymraeg syml i fusnesau yn ystod oriau hygyrch.

  3. Er mwyn cynyddu’r defnydd o Gymraeg dylai Cyngor Caerdydd trefnu gwasanaeth cyfieithu ar alw gan gwmnïau proffesiynol sy’n debyg i’r wasanaeth a ddarparwyd yn y gorffennol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gwasanaethau cymdeithasol

  1. Dylai fod gwasanaeth Gymraeg gael ei gynnig yn rhagweithiol i’r sawl sydd yn dod i gyswllt â’r gwasanaethau cymdeithasol.

  2. Yn yr hinsawdd o lymder sydd mae llai a llai o adnoddau ar gael a mae bodolaeth y cyrff cymdeithasol eu hunain (fel Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd6 — yr unig gorff o’i fath yng Nghaerdydd) o dan fygythiad gan y toriadau. I’r iaith ffynnu rhaid i bobl Caerdydd fedru ffynnu. Rhaid i gyrff fel hyn fodoli gyda sicrwydd ariannol a digon o gyllid i beidio gweld gwariant ar y Gymraeg fel straen ychwanegol.

  3. Mae’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol yn haeddu cyn gymaint o hawliau iaith a unrhyw un arall.

Gweithgareddau i bobl ifanc

  1. Dylai Cyngor Caerdydd ailsefydlu ei bolisi o ariannu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, megis clybiau ieuenctid a chanolfannau chwarae, gan sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau cyfrwng Cymraeg.

  2. Dylid cefnogi sefydliadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd sy’n darparu gweithgareddau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg.

  3. Dylai Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru sicrhau bod gweithgareddau hamdden ar gael yn Gymraeg i o leiaf yr un lefel â’r Saesneg. Un enghraifft yw nofio i fabanod. Mae llawer o ddewis o ddosbarthiadau Saesneg ond prin iawn mae’r rhai Cymraeg — a dim byd ar y penwythnosau. Cwmnïau preifat sy’n darparu’r gwersi hyn ond maen nhw’n defnyddio canolfannau y cyngor ambell waith. Dylai’r cyngor gweithio gyda’r cwmnïau i sicrhau gwersi Cymraeg.

Cyngor Caerdydd: gweinyddiaeth, cyfathrebu a gwasanaethau cyhoeddus

Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar ddefnydd y Gymraeg o fewn y gwaith. Fel cyflogwr a chorff mawr mae Cyngor Caerdydd yn dylanwadu’n sylweddol ar gryfder y Gymraeg.

  1. Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymo i weithio at fod yn Gyngor Gweithredol Dwyieithog yn cynnig lefel gwasanaeth a gweinyddiaeth dwyieithog uwch nac unrhyw orfodaeth gan safonau iaith Comisiynydd y Gymraeg.

  2. Mae gweithio tuag at fod yn Gyngor Gweithredol Dwyieithog yn golygu creu, gweithredu ac arolygu cynllun gweithredol pwrpasol sy’n dangos cynnydd amlwg flwyddyn ar flwyddyn.

  3. Mae angen gofyn i holl bartneriaid a chwmnïau gwirfoddol a phreifat sy’n gweithio gyda Chyngor Caerdydd neu ar ei ran wneud arolwg blynyddol o sgiliau ieithyddol eu staff.

  4. Mae angen gwneud y defnydd gorau o’r sgiliau sydd gan y staff presennol.

  5. Mae angen sicrhau fod holl staff y cyngor yn gallu ymwneud â’r cyhoedd yn Gymraeg.

  6. Mae angen sicrhau bod pob aelod o staff Cyngor Caerdydd yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaol at lefel arholiad cyfredol Defnyddio’r Gymraeg fel bod modd iddyn nhw gefnogi gwasanaethau Cyngor dwyieithog.

  7. Mae angen sicrhau bod pob aelod o staff Cyngor Caerdydd y mae disgwyl iddyn nhw ddarparu gwasanaethau Cymraeg ddysgu Cymraeg fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaol at lefel arholiad cyfredol Defnyddio’r Gymraeg Uwch fel bod modd iddyn nhw greu gwasanaethau cyngor dwyieithog.

  8. Mae angen sicrhau bod holl staff y cyngor yn dysgu Cymraeg fel rhan o’u datblygiad proffresiynol parhaol yn unol â gofynion eu swyddi nhw at lefel arholiad cyfredol Hyfedredd fel bod modd iddyn nhw arwain gwasanaethau cyngor dwyieithog.

  9. Mae angen sicrhau fod holl staff y cyngor yn gallu defnyddio’r Gymraeg o fewn y gwaith a derbyn gwybodaeth gwaith yn y Gymraeg.

  10. Mae angen i’r cyngor ofyn i’r adrannau adnoddau dynol perthnasol weithredu er mwyn sicrhau bod mwy o staff sy’n siarad Cymraeg trwy hyfforddiant a hysbysebu swyddi Cymraeg hanfodol.

  11. Dylai holl wybodaeth anwytho fod yn Gymraeg.

  12. Dylai meddalwedd cyflogaeth a gweinyddiaeth cyflogaeth cyffredinol fod ar gael yn ddwyieithog er mwyn cael gwybodaeth pensiwn, cyflogaeth, trefnu gwyliau a chofnodi absenoldeb a salwch.

  13. Lle bo modd gwneud dylai staff gael dewis rheolaeth llinell a/neu fentor Cymraeg.

  14. Dylid hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ym mhapurau a rhwydweithiau mewnol y cyngor.

  15. Dylid herio cynrychiolwyr undebau llafur a chyrff proffesiynol eraill i gydweithio ar hyn gan ddatblygu eu gweinyddiaeth a’u cefnogaeth fewnol eu hunain i ganiatáu a chefnogi defnydd o’r Gymraeg.

  16. Mae angen sicrhau cefnogaeth ymarferol i bob cynghorydd sydd am ddysgu neu wella’i sgiliau Cymraeg.

  17. Mae angen sicrhau fod cyfle i bob cynghorydd gael defnyddio’r Gymraeg o fewn cyfarfodydd y cyngor a dylid darparu a hyrwyddo defnydd o gyfieithu ar y pryd.

  18. Dylid darparu holl gofnodion a phapurau cyfarfodydd safonol gweithredol y cyngor yn Gymraeg.

  19. Dylid marchnata’r cyfleon hyn i gyd fel bod staff y ddinas yn ymwybodol bod y cyngor am iddyn nhw ddysgu’r Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg ac ymfalchïo eu bod yn byw ac yn gweithio ym mhrifddinas Cymru sy’n cael ei chefnogi gan gyngor gweithredol dwyieithog.

  20. Mae Llais y Ddinas yn gwneud colled o dros £80,000 bob blwyddyn ar ôl ystyried yr holl gostau a’r incwm trwy hysbysebu.7 Dylid torri’r darnau propaganda o’r fenter sy’n brolio am y weinyddiaeth bresennol er mwyn osgoi’r sefyllfa bresennol pan fo trethdalwyr yn ariannu cyfathrebu nad yw i gyd yn wybodaeth ymarferol.

  21. Pan fo angen switsfyrddau cyhoeddus awtomatig, dylen nhw chwarae cerddoriaeth o Gymru er mwyn dathlu ein talent a sicrhau ffynhonnell arall o freindaliadau i gerddorion, arian sy’n cael ei dalu i wledydd eraill mewn nifer helaeth o achosion.

  22. Mae angen parhau i wneud arolwg blynyddol o sgiliau ieithyddol staff Cyngor Caerdydd.

Yn unol â’r Safonau mewn perthynas â’r Gymraeg:

  1. Dylai cyfweliadau gwaith fod ar gael yn Gymraeg lle bo ymgeiswyr yn dewis hynny.

  2. Dylai cyfweliadau gwaith am swyddi lle mae angen defnydd sylweddol o’r Gymraeg, megis athrawon, fod yn Gymraeg a chynnwys prawf iaith.

  3. Dylai cytundebau gwaith swyddi fod yn Gymraeg lle bo ymgeiswyr yn dewis hynny.

  4. Dylid gweithio at gael holl bolisïau cyflogaeth sylfaenol ar gael yn Gymraeg.

  5. Dylid hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg rhwng aelodau staff ac adrannau’r cyngor trwy ddulliau electronig ac ar lafar trwy ddefnydd arwyddion a bathodynnau.

Arwyddion

Mae arwyddion uniaith Saesneg newydd sbon yn parhau i ymddangos yn y sir er bod Cyngor Caerdydd wedi mabwysiadu cynllun iaith ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

  1. Dylid sicrhau bod pob arwydd a ariannir gan y cyngor ar ran pobl Caerdydd, gan gynnwys rhai dros dro, yn ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg8 neu yn uniaith Gymraeg.

  2. Wrth drefnu cwmnïau i osod arwyddion, dylai Cyngor Caerdydd ffafrio darparwyr yng Nghymru a sicrhau eu bod nhw gweithredu’n unol â gofynion y cynllun iaith o ran arwyddion ffordd Cymraeg. Dylai amodau iaith fod yn rhan hanfodol o unrhyw dendr neu gynnig am waith ffordd y cyngor.

  3. Mae angen archwiliad o ddiffygion yr arwyddion presennol er mwyn rhoi tegwch i’r Gymraeg cyn gynted â phosib — gan gynnwys ffyrdd, parciau, Castell Caerdydd, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, maes awyr Caerdydd a mannau cyhoeddus eraill.

Y system les

Mae’n bwysig bod pobl sy’n hawlio budd-daliadau’n cael chwarae teg ar lefel ieithyddol.

Maes arall lle mae angen chwyldroi’r sefyllfa yw maes y gymdeithasau tai yng Nghaerdydd. Er bod gan Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd bolisi iaith gwan, nid ydynt yn cydymffurfio â fe.

Er bod arnynt ddyletswyddau statudol i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, go brin y mae adrannau ac asiantaethau Cyngor Caerdydd yn gwneud hynny.

  1. Mae angen comisiynu arolwg o ddarpariaeth iaith yn y system les a chymdeithasau tai yng Nghaerdydd er mwyn ffurfio gweithredoedd cadarn o hyn ymlaen.

  2. Dylai’r sefyllfa o ran y system budd-daliadau sy’n bodoli gyda’r Saesneg gael ei hadlewyrchu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.

  3. Dylid cynnig gwasanaeth a gohebiaeth yn y Gymraeg ac nid ei gymryd yn ganiataol bod pobl yn hapus i siarad Saesneg, a bod rhaid gofyn am wasanaeth Cymraeg.

  4. Dylid diwygio polisïau cyfathrebiadau a chyhoeddusrwydd i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  5. Mewn tŷ cyngor, mae angen gosod arwyddion, gan gynnwys diogelwch a thân, gyda’r Gymraeg uwchben unrhyw ieithoedd eraill.

  6. Ni ddylai unrhyw un gael ei sancsiynu na eu gorfodi i fynd ar ‘workfare’ yng Nghaerdydd.

Iechyd

  1. Mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sicrhau fod modd i gleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd ddefnyddio pob un o wasanaethau’r bwrdd trwy gyfrwng y Gymraeg.

  2. Dylai unrhyw ddeunydd a gyhoeddwyd gan Gyngor Caerdydd, neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n ymwneud ag iechyd cyhoeddus neu’n cynnig gwybodaeth i gleifion fod yn ddwyieithog. Dylai’r holl ffurflenni gweinyddol a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd hefyd fod yn ddwyieithog.

  3. Dylid darparu gwersi Cymraeg i bob un o staff y bwrdd iechyd, a mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo’r cyfleoedd hynny.

  4. Dylai’r holl staff sy’n ymwneud â‘r cyhoedd dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth am anghenion ieithyddol mewn iechyd.

  5. Dylid gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg o wasanaethau gofal iechyd meddwl.

Yn unol â’r safonau mewn perthynas â’r Gymraeg:

  1. Dylai’r bwrdd iechyd sicrhau fod eu holl gyfathrebiadau cyhoeddus yn ddwyieithog, gan gynnwys cyfathrebiadau uniongyrchol megis llythyron at gleifion, a chyfathrebiadau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

  2. Dylai’r bwrdd iechyd gynnal arolwg blynyddol o sgiliau iaith y staff ar draws pob gwasanaeth, a gweithredu er mwyn gwella sgiliau iaith yn yr adrannau lle mae yna ddiffyg presennol.

Amlddiwylliannedd

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb sy’n byw yng Nghymru.

I’r brosiect o adfywio’r Gymraeg yn y ddinas, mae amrywiaeth Caerdydd yn ased, heb amheuaeth.9

Nid yw gweledigaeth hir-dymor dros ffyniant y Gymraeg yn gyflawn heb weledigaeth am ffyniant pobl a chymunedau amrywiol Caerdydd yn gyffredinol.

  1. Dylai Cyngor Caerdydd wneud datganiad pendant ar rôl y Gymraeg yn ei strategaethau ar gyfer cydlyniant cymunedol.10 Ar hyn o bryd, mae’r tueddiad polisi at ‘integreiddiad’ a ‘rhyngddiwylliannedd’ yn hytrach na disgwrs ar amlddiwylliannedd.11

  2. Dylid cynllunio strategaeth marchnata’r Gymraeg sydd yn ymwneud ag arweinyddion cymunedau ethnig Caerdydd. Yn hyn o beth, mae angen buddsoddiad mewn hwylusyddion y Gymraeg sy’n anelu at fudiadau, grwpiau, elusennau grwpiau ethnig lleiafrifol, mewnfudwyr, ceiswyr lloches ac ati.

  3. Dylid cynnal sesiynau ar gyfer newydd-ddyfodiaid sy’n cynnwys dysgu am iaith a diwylliant Cymru. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen adnoddau i ddatblygu deunyddiau ar gyfer pecyn croeso. Mae ymchwil12 yn dangos bod mewnfudwyr i Gaerdydd yn agored a chwilfrydig iawn am yr iaith. Mae angen eu hatynnu nhw o’r dechrau oll felly a dangos bod yna gymuned iaith Gymraeg yn bodoli yng Nghaerdydd.

  4. Dylid cynnig dilyniant i gyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion. Dylid cynnig gwersi Cymraeg am ddim neu am ffioedd llai fel sy’n digwydd gyda chyrsiau ESOL ar hyn o bryd ac sydd yn digwydd mewn llefydd fel Gwlad y Basg, Catalwnia a Quebec.

  5. Dylid cyfathrebu â darpar rieni/gwarchodwyr (mewn cymunedau amlethnig er enghraifft) a chynnig mwy o wybodaeth ar bwysigrwydd a manteision addysg Gymraeg.

  6. Mae angen gwella’r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gweler yr adran addysg am ragor o fanylion. Mae darpar rieni/warchodwyr o grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n awyddus i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg ond mewn sawl achos nid oes ysgol cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd hawdd. Ystyriwch sefyllfa rheiny yn Nhre Biwt a Grangetown er enghraifft, a rhai ohonynt wedi gorfod mynd a’u plant i ysgolion mewn sir arall.

  7. Wrth gwrs mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd fod yn falch o wasanaethu dinas mor amrywiol a chymryd pobl cyfle i wrthwynebu rhagfarn tuag at bobl ar sail man geni, hil, iaith, daliadau crefyddol, cefndir ac ati yn ein cymunedau. Mwy na hynny mae angen gweithredu i ddileu hiliaeth sefydliadol a strwythurol sy’n rhoi llawer o’n dinasyddion o dan anfantais.

Amgylchedd, cynaliadwyedd a thrafnidiaeth

Mae angen cynnwys yr amgylchedd mewn unrhyw weledigaeth hir dymor o gymunedau Cymraeg iachus.

Mae gan lawer o ardaloedd Caerdydd a’r cylch enwau sydd â tharddiad amgylcheddol, er enghraifft Llanrhymni (afon), Trelai (afon), Caerau, Draenen Pen-y-Graig, Llwyn Fedw, Y Mynydd Bychan, Pen-Tyrch, Pentwyn, Y Tyllgoed, Y Waun Ddyfal, Ystum Taf, Penarth ac yn y blaen. Mae hyn yn dangos cysylltiad cryf rhwng pobl Caerdydd, eu cynefin a’u hiaith.

Mae’r iaith Gymraeg mewn cyflwr bregus — yng Nghaerdydd fel ym mhob rhan o Gymru — oherwydd dirywiad amgylcheddol mewn llefydd eraill.

Mae Caerdydd — wedi’i ddiogelu gan Fro Morgannwg i’r gorllewin, yr argae i’r de, a morlyn Caerdydd (o bosib) i’r dwyrain — yn opsiwn gwirioneddol i’r rhai sy’n deisyfu bywyd dinasol mewn ardal sy’n agos at fyd natur. Mae’r amgylchedd yn uniongyrchol bwysig felly i garedigion yr iaith.

  1. Gall awdurdodau gefnogi bywyd gwyllt trwy leihau neu ymatal rhag ddatblygu ar diroedd gleision, a sicrhau mwy o ardaloedd gwirioneddol gwyllt o fewn y ddinas.

  2. Rhaid lleihau ein defnydd o ynni. Mae petrol a diesel yn gyfrifol am 40% o’n defnydd ynni felly rhaid gwneud pob ymdrech i symud pobl allan o’u ceir a’u hannog i ddefnyddio beiciau a thrafnidiaeth gyhoeddus.13 Gellir gwneud hyn gyda lonydd bysiau newydd, taliadau parcio drutach (gan gynnwys ‘ardoll parcio gweithle’14), parth gydol-y-ddinas 20mya, a chau rhai strydoedd cysylltiadol i geir fel bod cerdded a beicio yn haws na gyrru.15

  3. Trydan a nwy yw’r 60% arall o’n defnydd ynni. Gellir lleihau defnydd trwy ynysu tai yn aruthrol o dda, a rhoi cyngor i bobl am yr arian a wastreffir trwy ddefnyddio teclynnau aneffeithlon (goleuadau yn arbennig). Cofiwn bod Cymru yn allforio biliynau o bunnoedd y flwyddyn i gwmnïau ynni tramor.

  4. Dylai’r cyngor gwella’r ddarpariaeth o gyngor ynni a chynaliadwyedd yn Gymraeg i’r cyhoedd.

  5. Dylai’r cyngor newid i ddarparwyr ynni adnewyddol ar draws pob adran.

  6. Cwmni sydd yn eiddo i Gyngor Caerdydd yn unig yw Bws Caerdydd. Nid yw’n dderbyniol bod y cwmni yn trin y Gymraeg yn eilradd, a rhaid gwella’r defnydd anghyson a diffygiol o’r iaith ar bron pob lefel — gwefan, gwasanaeth ffôn, datganiadau llais newydd ar y bysiau, Twitter, taflenni, hyd yn oed enwau lleoedd Caerdydd (dim ond y Saesneg sy’n cael ei defnyddio’n aml, er enghraifft ‘Fairwater’, ‘Ely’). Dylid cynnal asesiad o allu’r gyrrwyr i siarad Cymraeg a rhoi hyfforddiant lle bo angen.

  7. Mae’r orsaf fws yn rhan annatod o gynllun trafnidiaeth. Ond ar hyn o bryd mae cynllun i ‘ddatblygu’ ardal yr orsaf fws ganolog trwy ei chwalu. Bydd trigolion Caerdydd heb orsaf fws ganolog am ddwy flynedd neu fwy. Nid yw’r lluniau o’r dyluniad newydd a ddatgelwyd yn y wasg16 yn cynnwys bws hyd yn oed. Nid oes sicrwydd y bydd enwau ac arwyddion Cymraeg yn rhan ganolog o’r datblygiad chwaith. Bydd yn rhaid i Gyngor Caerdydd wneud llawer mwy i brofi eu bod nhw o blaid pobl Caerdydd yn hytrach na’r datblygwyr, busnesau a sefydliadau mawr sy’n elwa o’r datblygiadau.17

  8. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan bwriad i wario tua £1.2biliwn ar adeiladu traffordd newydd ar diroedd naturiol rhwng Magwyr a Chas-bach.18 Mae sawl problem gyda’r cynllun o ran niwed i’r amgylchedd a chynnydd yn y defnydd o geir a cherbydau eraill19 heb sôn am y gwariant arfaethedig. Yn lle bwrw mlaen â’r cynllun niweidiol hyn, dylai Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a chynghorau sir eraill, grwpiau cymunedol ac arbenigwyr trafnidiaeth cynaliadwy, ddatblygu cynllun amgen er mwyn gwella trafnidiaeth cynaliadwy yn Nghymru.

  9. Mae angen gwella trafnidiaeth cynaliadwy gan gynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru. Nid oes modd teithio ar y trên yn rhwydd rhwng Caerdydd a gogledd Cymru na Cheredigion.

  10. Yn 2015 dadorchuddwydd arwydd uniaith Saesneg yn ngorsaf drenau Heol y Frenhines, Caerdydd. Nid yw hyn yn dderbyniol a dylai sicrhau bod popeth ar gael yn ddwyieithog mewn gorsafoedd trenau ledled Caerdydd.

  11. Mae angen dad-normaleiddio’r defnydd o faes awyr Caerdydd i’r rhai sy’n teithio i ogledd ein gwlad a llefydd eraill yn Ynys Prydain.

Celfyddydau, bywyd diwylliannol, chwaraeon a digwyddiadau

Mae cyfraniad y Gymraeg i fywyd diwylliannol Caerdydd yn rhywbeth i’w ddathlu, ac mae angen cydweithredu rhwng y cyngor a’r sectorau celfyddydau a hamdden er mwyn hyrwyddo’r gwerth y Gymraeg yn y ddinas.

  1. Dylai Cyngor Caerdydd cefnogi a hybu digwyddiadau Cymraeg yn y ddinas, gan gynnwys gwyliau, cyngherddau, gweithgareddau i blant a theuluoedd. Dylai Cyngor Caerdydd ailsefydlu ei bolisi o ariannu gweithgareddau a digwyddiadau sy’n hybu Cymreictod amlddiwylliannol. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid cwestiynu ymrwymiad i’r Gymraeg gan y cyngor, sy’n gadael ariannu Tafwyl i gyrff eraill, megis Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

  2. Dylid fod yn ofynnol i ddigwyddiadau cyhoeddus mawr sy’n cael eu cynnal yn y ddinas — megis yr Hanner Marathon, Parêd Dewi Sant, Gŵyl Bwyd a Diod Rhyngwladol Caerdydd a Gŵyl Harbwr Caerdydd a digwyddiadau eraill — gynnwys y Gymraeg. Mae hyn yn golygu darpariaeth o arwyddion, deunyddiau hyrwyddo, cyfathrebiadau a gwefannau dwyieithog. Ond dylid hefyd hybu’r Gymraeg mewn digwyddiadau a gwyliau mewn ffordd fwy dwfn, er enghraifft, trwy gerddoriaeth Gymraeg neu stondinau i fasnachwyr sy’n hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.

  3. Fel dau o brif atyniadau’r ddinas, sy’n denu miloedd o ymwelwyr i gymaint o ddigwyddiadau, mae’n hanfodol bod Stadiwm Dinas Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm/Undeb Rygbi Cymru wneud mwy i hyrwyddo’r Gymraeg. Dylai Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd y Gymraeg roi pwysau ar y sefydliadau i wella eu cynlluniau iaith Gymraeg.

  4. Dylid hybu cefnogaeth i’r Gymraeg gan ganolfannau celfyddydol y ddinas, yn eu hadeiladau, eu cyfathrebiadau ac yn eu cefnogaeth i gynnal digwyddiadau, cyngherddau, a chynhyrchiadau Cymraeg.

  5. O ystyried y toriadau y mae’r cyngor yn eu gweithredu i wasanaethau craidd megis gwasanaethau ieuenctid a chwaraeon i blant mae hi’n anodd iawn cyfiawnhau’r benderfyniad i ganslo benthyciad o £4.4miliwn i Glwb Criced Morgannwg. Nid oes gwarant am ddyfodol disglair i’r clwb criced, sy’n dal i wynebu heriau ariannol20, felly dylai Cyngor Caerdydd ystyried yn ddwys unrhyw sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Heddlu a chyfiawnder

Os cewch chi’ch arestio am unrhyw honiad gellid disgwyl y byddwch yn y ddalfa am amser hirach am ddewis mynd trwy’r broses trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â hyn, mae’n rhoi siaradwyr Cymraeg o dan anfantais.21 Yn ôl Heddlu De Cymru os cewch chi gyfreithiwr gyda chi yn y cyfweliad bydd rhaid i’r cyfreithiwr dalu am y cyfieithu ar y pryd iddo’i hun os ydych chi’n dewis cynnal y cyfweliad yn Gymraeg, os nad ydy’r cyfreithwr yn siarad Cymraeg.

Nid oes gan garcharorion yng ngharchar Caerdydd nemor dim hawliau iaith o ran y Gymraeg.

  1. Rhaid i bobl sydd wedi cael eu harestio ofyn am fynd trwy bob proses yn y ddalfa neu yn y llysoedd yn Gymraeg yn benodol ar hyn o bryd. Yn lle hyn dylai bod cynnig rhagweithiol o’r cychwyn.

  2. Dylai’r awdurdodau gwneud nodyn o ddewis iaith bob tro felly ni fydd rhaid disgwyl i’r diffynydd wneud cais i ddefnyddio’r Gymraeg bob tro.

  3. Ni ddylai’r siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu carcharu gael y cosb ychwanegol o wadiad eu hawliau iaith tra yn y carchar.

Nodiadau

  1. www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/contents/enacted/welsh
  2. www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Caerdydd-Ddwyieithog/Pages/default.aspx
  3. Mae’r ymgyrch genedlaethol Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn berthnasol iawn yma. Gweler cymdeithas.cymru/dogfen/bil-cynllunio-cyfle-i-greu-cymunedau-cynaliadwy a cymdeithas.cymru/galwadcynllunio
  4. Mae mwy o fanylion am Addysg Gymraeg i Bawb, ymgyrch genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ar gael yma: cymdeithas.cymru/addysg
  5. Wicipedia Cymraeg yw’r wefan mwyaf poblogaidd yn Gymraeg o ran nifer o ymweliadau: stats.wikimedia.org/EN/SummaryCY.htm
  6. www.bbc.co.uk/cymrufyw/31195464
  7. cardiffian.jomec.co.uk/2015/03/24/cardiff-councils-capital-times-costs-tax-payers-over-80000-a-year/
  8. “penderfynwyd gyda mwyafrif sylweddol i argymell y dylid dangos y geiriad Cymraeg yn gyntaf ar bob arwydd dwyieithog” oedd argymhelliad adroddiad Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Bowen et al. yn 1972.
  9. cambrianostra.com/2015/01/07/immigration-obstacle-or-asset-to-language-revitalization/
  10. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn syniadau Lloegr ar reoli amrywiaeth, yn hytrach nag ystyried sefyllfa ieithyddol Cymru. gov.wales/topics/people-and-communities/communities/communitycohesion/publications/strategy/?lang=cy
  11. Dylanwadwyd gan Adroddiad Cantle yn dilyn terfysgoedd gogledd Lloegr yn 2001: resources.cohesioninstitute.org.uk/Publications/Documents/Document/Default.aspx?recordId=96
  12. Gweler ychwil Gwennan Higham: www.academia.edu/7821236/Teaching_Welsh_to_ESOL_students_issues_of_intercultural_citizenship_British_Council_ESOL_Nexus_2014_
  13. Mae llawer iawn mwy o fanylion am drafnidiaeth gyda llwyth o gyfeirnodau yn y ddogfen hon gan Gyfeillion y Ddaear: www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/active_travel_wales_bill_june13.pdf
  14. www.nottinghamcity.gov.uk/wpl
  15. www.aviewfromthecyclepath.com/2009/02/how-groningen-grew-to-be-worlds-number.html Un pwynt pwysig yw’r un canlynol: “The city is now split into four segments between which it is impossible to drive without going out to the ring-road and back in again”
  16. www.walesonline.co.uk/news/wales-news/first-images-cardiffs-new-bus-9532831
  17. www.walesonline.co.uk/news/wales-news/bus-users-face-two-years-8293628
  18. www.m4newport.com/assets/consultation-participation-report---executive-summary---welsh.pdf
  19. Er enghraifft, gweler ymateb Cyfeillion y Ddaear Cymru i ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol i “werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd”: www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s37046/MTRI%2011%20-%20Cyfeillion%20y%20Ddaear%20Cymru%20Saesneg%20yn%20Unig.pdf
  20. www.walesonline.co.uk/news/wales-news/cardiff-council-agrees-write-70-8875065
  21. www.academia.edu/8992966/Profiadau_siaradwyr_Cymraeg_yn_y_ddalfa_a_r_carchar._DRAFFT