Mike Hedges AC a Lloyds: angen Safonau Iaith i'r sector breifat

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Lloyds Bank wedi gwrthod derbyn llythyr Cymraeg gan yr Aelod Cynulliad Mike Hedges. 

Dywedodd David Williams, is-gadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith: 
 
"Mae'r digwyddiad yn dystiolaeth bellach o'r angen i estyn hawliau iaith i weddill y sector breifat, gan gynnwys y banciau. Mae ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol. Mae'n eironig bod Aelod Cynulliad Llafur yn dioddef o bolisi ei Lywodraeth ei hun. Cwta wythnos yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog Llafur Alun Davies bapur gwyn yn datgan nad oedd e'n bwriadu estyn y ddeddfwriaeth iaith i fanciau. Unwaith eto, mae gyda ni Lywodraeth Llafur yn amddiffyn y bancwyr yn lle pobl Cymru."