Myfyrwyr Aberystwyth yn anfodlon gyda gwasanaeth Cymraeg Morrisons

Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn Aberystwyth yn siomedig gyda gwasanaethau Cymraeg Morrisons wedi iddyn nhw gynnal arolwg yn siop Aberystwyth.

Mae'r arolwg yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith sydd yn gofyn i bobl ddweud y byddan nhw'n penderfynu peidio siopa yn Morrisons o fis Rhagfyr ymlaen, nes i'r siop roi chwarae teg i'r Gymraeg.

Wrth wneud yr arolwg fe wnaethon nhw weld mai dim ond rhai o arwyddion parhaol y siop oedd yn ddwyieithog, a bod arwyddion dros-dro a thaflenni yn uniaith Saesneg. Er bod rhai aelodau staff yn siarad Cymraeg doedden nhw ddim yn cael eu hannog i wisgo bathodyn i ddangos hynny; ac er bod peiriannau hunan-wasanaeth yn Gymraeg mae'n rhaid chwilio am y botwm Cymraeg – ac mae cyfarwyddiadau defnyddio'r peiriannau yn Saesneg.

Oherwydd eu siom mae'r gell wedi penderfynu rhoi cynnig gerbron cyfarfod cyffredinol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ddydd Llun y 6ed o Hydref fod yr undeb yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith.

Bydd y myfyrwyr hefyd yn mynd ati i drefnu stondinau tu fas i'r siop i gasglu enwau ar gyfer y boicot.

Dyma alwadau Cymdeithas yr Iaith i Morrisons:

1) Sicrhau bod pob arwydd yng Nghymru yn ddwyieithog;

2) Polisi Cyflogaeth ac Ymgyrch Recriwtio fydd yn sicrhau digon o staff sy'n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru;

3) labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand Morrisons;

4) deunydd hyrwyddo a marchnata dwyieithog;

5) cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru.