Myfyrwyr yn arwain piced wrth Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd ddiffyg gwasanaethau Gymraeg

Mae myfyrwyr wedi arwain ail biced Cymdeithas yr Iaith y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth heddiw wrth i ragor o gwsmeriaid wynebu agwedd wrth-Gymraeg, er gwaetha addewidion na fyddai’n digwydd eto.

Wrth ateb llythyr Cymdeithas yr Iaith o 2022 cafwyd addewid gan Swyddfa’r Post y byddai’n mynd i’r afael gyda’r problemau er mwyn atal digwyddiadau tebyg. Er gwaethaf yr addewid, mae sawl un wedi cael profiad gwael ers hynny. Dywedwyd wrth gwsmeriaid nad yw’r Gymraeg yn iaith swyddogol, sydd yn anghywir, a chyfeiriwyd eraill at Swyddfeydd Post cyfagos er mwyn cael gwasanaethau Cymraeg.

Un o’r rhai sydd wedi profi agwedd sarhaus tuag at y Gymraeg yn ddiweddar yw Jac Jolly, myfyrwyr ym Mangor ond sy’n dod o Dregaron. Yn trafod ei brofiad, dywedodd:
“Dydy’r Swydda Bost ddim yn fodlon derbyn bod gyda ni hawliau i ddefnyddio’r Gyrmaeg. Ond dydyn nhw ddim yn trin staff yn iawn chwaith. Fe aethon ni mewn i siarad gyda staff, sydd wedi rhoi gwybod bod y Swyddfa Bost wedi dweud wrthyn nhw y byddai’n rhaid iddyn nhw dalu am wersi Cymraeg eu hunain a dysgu yn eu hamser eu hunain, er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg. Dydy sytemau Swyddfa’r Post ddim yn gweithio i staff, cwsmeriaid, y Gymraeg na’n cymunedau.”

Cynhaliwyd piced flaenorol ym mis Hydref y llynedd yn dilyn sawl cwyn gan aelodau’r Gymdeithas am agwedd y Swyddfa Bost. Mynnodd Cymdeithas yr Iaith bod hyn yn wasanaeth annigonol, a’i fod yn groes i Fesur Iaith 2011, sy’n sefydlu hawl pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
“Mae'n hollbwysig o ran hawliau siaradwyr Cymraeg yn Aberystwyth, ac i'r Gymraeg yn gyffredinol, bod pobl yn gallu byw eu bywydau trwy'r Gymraeg. Ond yn y swyddfa bost yma, mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu herydu a hawliau staff yn cael eu diystyrru, ar yr union adeg pan mae nifer o gwmniau eraill yn gweld buddion busnes o ddarparu gwasanaethau trwy'r iaith. Nid yn unig bod diffyg gwasanaethau Cymraeg, ond mae cwsmeriaid yn cael eu trin yn wael wrth geisio cael gwasanaeth Cymraeg.

“Oherwydd hynny, dyma ni, dros drigain mlynedd ers diwrnod protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith ym Mhont Trefechan, yn gorfod mynd ati unwaith eto i godi llais dros ddiffyg gwasanaethau a ffurflenni Cymraeg yn swyddfa post Aberystwyth ac erfyn ar y Llywodraeth i warantu ein hawliau.”

Mae fideos a lluniau'r biced i'w gweld yma