Plant Cymru yn galw am addysg Gymraeg i bawb

Fel rhan o ymateb i bapur gwyn y Llywodraeth ar Ddeddf Addysg Gymraeg rydyn ni wedi cyflwyno 240 o negeseuon gan blant a phobl ifanc yn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.

Dywedodd Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith
"Mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar ddeddf addysg Gymraeg ar hyn o bryd. Er bod y cynigion yn gam mawr ymlaen mae'n cynnig bod dim ond 50% o ddisgyblion yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 - ond beth am y 50% arall? Mae angen rhoi pob ysgol ar daith at fod yn rhai cyfrwng Cymraeg dros amser a sefydlu un llwybr dysgu'r Gymraeg fel bod pob un disgybl yn derbyn addysg Gymraeg - beth bynnag eu cefndir, ble bynnag maen nhw'n byw. Dyna'r unig ffordd i sicrhau eu bod yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus.
"Mae'n bwysig bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed felly yn Eisteddfod yr Urdd fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw ddweud pam eu bod nhw'n credu y dylai pob un gael addysg cyfrwng Cymraeg. Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol iawn, gan rai sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac eisiau i bawb gael yr un cyfleoedd â nhw, a gan ddisgyblion sydd ddim yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ond sy'n gweld y byddan nhw’n colli pob math o gyfleon gwaith a diwylliannol yn y dyfodol, o beidio cael addysg Gymraeg."

Ymysg y rhai oedd yn cyflwyno'r cardiau roedd rhai a astudiodd Cymraeg fel pwnc ail iaith yn yr ysgol gan adael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, ac sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolion. Maen nhw'n gweld y cyfleoedd iddyn nhw eu colli, a ddim eisiau i ragor o bobl ifanc golli allan.

Ychwanegodd Mabli Siriol Jones:
"Mae cyfle gan y Llywodraeth i sicrhau nad oes cenhedlaeth arall o bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg yn ddigon hyderus - trwy osod nod yn y Ddeddf Addysg Gymraeg y bydd pob un disgybl yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050."