Safonau Iaith: Pryderon cyfreithiol am yr hawliau newydd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai fod “mannau gwan cyfreithiol” yn yr hawliau newydd i’r Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 7 Tachwedd).

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn trafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ers misoedd er mwyn ceisio sicrhau y bydd y Safonau - dyletswyddau iaith newydd ar gyrff o dan Fesur y Gymraeg 2011 - yn sicrhau hawliau clir a gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru.

Dywedodd Manon Elin, llefarydd hawliau’r mudiad: “O edrych ar y Safonau drafft, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o’n pryderon, a rhaid croesawu hynny, ond mae rhai materion sy’n peri pryder cyfreithiol i ni yn arbennig wrth ystyried gwasanaethau sydd wedi’u contractio allan a’u cynnig drwy grant. Mae cyrff cyhoeddus yn mynd drwy gyfnod o newid sylfaenol ar hyn o bryd o ran sut maen nhw’n darparu gwasanaethau, gan gynnwys llawer mwy o gydweithio a chynnig gwasanaethau drwy gwmnïau a chyrff eraill. Byddai’n anffodus iawn petai’r Llywodraeth yn creu trefn newydd o ddyletswyddau iaith sy’n methu cwmpasu gwasanaethau o’r fath.”

“Mater arall sy’n peri pryder yw gwendid y Safonau ynghylch defnydd mewnol o’r Gymraeg mewn sefydliadau. Mae rhai Safonau yn gam yn y cyfeiriad cywir ond er mwyn newid sefyllfa’r iaith ar lawr gwlad, mae angen Safonau llawer mwy cadarn ar ddefnydd mewnol - gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol mewn cyfran o swyddi, sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio yn y gwaith bob dydd, a rhoi hyfforddiant dwys i bobl ddysgu’r Gymraeg yn rhugl yn y gweithle. Dylai’r Safonau gynnig llwybr clir i sefydliadau wneud hynny.”

Ychwanegodd Jamie Bevan, Cadeirydd y mudiad: “Bydd y Gymdeithas yn cwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru unwaith eto ddydd Llun, lle byddwn ni’n parhau i wthio am welliannau sylfaenol i’r Safonau. Rydyn ni’n ffyddiog y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn gwella’r Safonau yn ystod y cam olaf yma er mwyn gwireddu amcanion gwreiddiol y Cynulliad pan gafwyd pleidlais unfrydol i basio Mesur y Gymraeg 2011.”